Pryd fyddwch chi'n cael eich talu

Mae’r rhan fwyaf o daliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.

Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych:

  • faint fyddwch yn ei gael
  • pa gyfrif banc y bydd yn cael ei dalu iddo - fel arfer mae hwn yr un cyfrif â’ch Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill

Os nad ydych yn derbyn llythyr

Os nad ydych yn cael lythyr neu nad yw’r arian wedi’i dalu i’ch cyfrif erbyn 29 Ionawr 2025, cysylltwch â’r Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf.

Os ydych yn aros am benderfyniad Credyd Pensiwn

Byddwch yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig pan gymeradwyir eich cais am Gredyd Pensiwn.

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Pensiwn ond heb dderbyn penderfyniad eto, nid oes angen i chi gysylltu â Chanolfan Talu Tanwydd Gaeaf.