Cynrychioli eich hun yn y llys
Ysgaru a gwahanu: arian ac eiddo
Cyfeirir atoch fel y:
- ‘ceisydd’ os wnaethoch ddwyn yr achos, er enghraifft chi wnaeth ffeilio’r papurau ysgariad
- ‘atebydd’ os oes rhywun arall wedi dod â’r achos
Darganfyddwch beth sy’n rhaid i chi ei wneud cyn i chi fynd i’r llys os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu a bod gennych anghydfod ynghylch arian neu eiddo.
Fel arfer mae’n rhaid i chi ystyried cyfryngu cyn i chi fynd i’r llys.
Ni fydd y llys yn gwrando ar eich achos nes i chi anfon ffurflen C100 atynt.