Cynrychioli eich hun yn y llys
Ysgaru a gwahanu yn ymwneud â phlant
Cyfeirir atoch chi fel ‘ceisydd’ os wnaethoch ddwyn yr achos, er enghraifft chi wnaeth ffeilio’r papurau ysgariad.
Byddwch yn cael eich adnabod fel yr ‘atebydd’ os ydych wedi cael papurau ysgaru neu gais am wahanu, neu orchymyn cyswllt neu orchymyn preswylio ar gyfer plentyn.
Cyn i chi fynd i’r llys
Fel arfer bydd rhaid i chi fynd i apwyntiad cyfryngu cyn i chi fynd i’r llys.
Ni fydd y llys yn gwrando ar eich achos nes i chi anfon ffurflen C100 atynt.
Darllenwch ganllawiau ynghylch a ddylech fynd â’ch achos i’r llys.
Darllenwch yr ‘Arweiniad i Rieni sydd wedi Gwahanu: Plant a’r Llys Teulu.
Mwy o wybodaeth am:
- sut i wneud cais am orchymyn llys
- y mathau o orchmynion llys gallwch wneud cais amdano neu ymateb iddo
- beth mae’r llys yn ei wneud ar ôl i chi wneud cais am orchymyn llys
- cael cymorth annibynnol a rhad ac am ddim gyda ffurflenni a dogfennau