Gwneud cais am orchymyn llys

Fel arfer mae’n rhaid i chi fynychu cyfarfod am gyfryngu cyn i chi wneud cais am orchymyn llys. Gelwir hyn yn gyfarfod asesu a gwybodaeth am gyfryngu (MIAM).

Mewn rhai achosion nid oes gofyn i chi fynychu MIAM, er enghraifft lle mae cam-drin domestig wedi digwydd neu os ydych yn gwneud cais am orchymyn cydsynio.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy ddefnyddio ffurflen bapur ar gyfer unrhyw un o’r canlynol:

  • gorchymyn trefniadau plant
  • gorchymyn camau gwaharddedig
  • gorchymyn mater penodol
  • gorchymyn cydsynio

Mae proses wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Faint mae’n costio

Mae’n costio £255 i wneud cais am orchymyn llys. Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.

Gwneud cais ar-lein

Unwaith y byddwch wedi dechrau eich cais, gallwch gadw eich ffurflen a’i chwblhau yn nes ymlaen. Bydd gennych 28 diwrnod i gwblhau’r ffurflen ar ôl i chi ei chadw.

Gwneud cais ar-lein nawr

Gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur

Dilynwch y camau hyn i wneud cais am orchymyn llys gan ddefnyddio ffurflen bapur.

  1. Darllenwch ganllaw CB001 ar wneud cais.

  2. Llenwch ffurflen llys C100. Rhaid i chi ddangos eich bod wedi mynychu cyfarfod cyfryngu yn gyntaf - ac eithrio mewn achosion penodol (lle mae cam-drin domestig wedi digwydd, er enghraifft) neu wrth wneud cais am orchymyn cydsynio.

  3. Anfonwch eich ffurflen wreiddiol a 3 chopi ohoni i’r llys agosaf sy’n delio ag achosion sy’n ymwneud â phlant.