Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Os na allwch gytuno
Os ydych wedi cael help ac yn dal i fethu cytuno yna bydd angen i chi wneud cais am orchymyn llys cyn i chi fynd i’r llys.
Rhaid i chi ddangos eich bod wedi mynychu cyfarfod cyfryngu yn gyntaf - ac eithrio mewn achosion penodol (lle mae cam-drin domestig wedi digwydd, er enghraifft).
Efallai y bydd yn rhaid i chi fynychu apwyntiad llys a mynd i nifer o wrandawiadau llys.
Cyn i’r llys wneud penderfyniad, efallai y bydd yn gofyn i chi roi cynnig arall ar gyfryngu neu fynd ar gwrs i’ch helpu i ddatrys problemau.
Mathau o orchmynion llys
Mae’r math o orchymyn llys sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar yr hyn nad ydych wedi gallu cytuno arno. Gallwch wneud cais am fwy nag un gorchymyn llys.
Trefniadau ar gyfer eich plentyn
Mae ‘gorchymyn trefniadau plant’ yn penderfynu:
- lle mae eich plentyn yn byw
- pryd fydd eich plentyn yn treulio amser gyda phob rhiant
- pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy’n digwydd (galwadau ffôn, er enghraifft)
Mae ‘gorchmynion trefniadau plant’ yn disodli ‘gorchmynion preswylio’ a ‘gorchmynion cyswllt’. Nid oes angen i rieni sydd â’r gorchmynion hyn ailymgeisio.
Chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol.
Magwraeth eich plentyn
Defnyddir ‘gorchymyn mater penodol’ i edrych ar gwestiwn penodol am sut mae’r plentyn yn cael ei fagu, er enghraifft:
- i ba ysgol maen nhw’n mynd
- a ddylent gael addysg grefyddol
Gallwch hefyd wneud cais am ‘orchymyn camau gwaharddedig’ i atal y rhiant arall rhag gwneud penderfyniad am fagwraeth y plentyn.
Pwy all wneud cais
Gall mam, tad y plentyn neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant wneud cais am orchymyn llys.
Gall pobl eraill wneud cais am y gorchmynion llys hyn, ond bydd angen iddynt gael caniatâd gan y llysoedd yn gyntaf. Darllenwch fwy am sut i wneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn nain neu’n daid i’r plentyn.