Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Ar ôl i chi wneud cais am orchymyn llys
Bydd y llys yn trefnu ‘gwrandawiad cyfarwyddiadau’ gyda’r ddau riant os byddwch yn gwneud cais am orchymyn llys.
Fel arfer bydd cynghorydd llys teulu o’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass Cymru) yn y gwrandawiad.
Bydd Cafcass yn anfon gwybodaeth atoch cyn y gwrandawiad - byddant fel arfer yn eich ffonio chi hefyd.
Yn y gwrandawiad, bydd barnwr neu ynad yn ceisio gweithio allan:
- beth allwch chi gytuno arno
- yr hyn na allwch gytuno arno
- os yw eich plentyn mewn perygl mewn unrhyw ffordd
Byddant yn eich annog i ddod i gytundeb os yw hynny er lles y plentyn. Os gallwch chi, ac os nad oes unrhyw bryderon am les y plentyn, gall y barnwr neu’r ynad ddod â’r broses i ben.
Bydd y llys yn gwneud gorchymyn cydsynio sy’n nodi’r hyn yr ydych wedi cytuno arno, os oes angen.
Os na allwch ddod i gytundeb yn y gwrandawiad llys cyntaf
Bydd y barnwr neu’r ynad yn gosod amserlen ar gyfer yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Efallai y bydd yn gofyn i chi geisio dod i gytundeb eto, er enghraifft trwy fynd i gyfarfod gyda chyfryngwr.
Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd ar gwrs os yw eich achos yn ymwneud â threfniadau plant. Gelwir y cwrs yn ‘Rhaglen Wybodaeth i Rieni sydd wedi Gwahanu’, a gallai eich helpu i ddod o hyd i ffordd i wneud i drefniadau plant weithio.
Fel arfer mae’n rhaid i chi fynd i un neu ddau gyfarfod, yn dibynnu ar y math o raglen. Ni fydd eich cyn-bartner yn yr un cyfarfodydd â chi.
Os byddwch yn dod i gytundeb ar unrhyw adeg, gall y barnwr neu’r ynad atal y broses.
Adroddiadau Cafcass
Gall y llys ofyn i Cafcass roi adroddiad ar eich achos i helpu i benderfynu beth sydd orau i’r plentyn.
Mae’n bosibl y bydd y swyddog Cafcass yn gofyn i’ch plentyn beth yw eu teimladau nhw. Byddwch yn cael copi o’r adroddiad pan gaiff ei ysgrifennu.
Beth mae barnwyr ac ynadon yn ei ystyried
Byddant bob amser yn rhoi lles plant yn gyntaf. Byddant yn meddwl am y canlynol:
- dymuniadau a theimladau’r plentyn
- anghenion corfforol, emosiynol ac addysgol y plentyn
- yr effaith y gall unrhyw newidiadau ei chael ar y plentyn
- oedran, rhywedd, nodweddion a chefndir y plentyn
- risg posibl o niwed i’r plentyn
- gallu rhieni i ddiwallu anghenion y plentyn
- gorchmynion y mae gan y llys y pŵer i’w gwneud
Bydd barnwr neu ynad ddim ond yn gwneud gorchymyn os yw’n meddwl ei fod er lles gorau’r plentyn.
Os ydych eisiau newid eich cais
Defnyddiwch ffurflen C2 i newid cais y mae’r llys yn dal i’w ystyried.
Mae’r ffi yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn gofyn i’r llys ei wneud. Rydych chi’n talu’r llys:
- £184 os ydych yn dal am i’r llys benderfynu ar eich achos drwy wrandawiad llys
- £58 os ydych chi a’ch cyn-bartner wedi dod i gytundeb a’ch bod am i’r llys gymeradwyo eich gorchymyn cydsynio heb wrandawiad llys