Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Gwneud trefniadau ar gyfer plant
Gallwch ddewis sut i wneud trefniadau ar gyfer gofalu am eich plant os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner.
Mae’r hyn y gallwch ei wneud yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Fel arfer, gallwch chi a’ch cyn-bartner osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar:
- lle bydd y plant yn byw
- faint o amser y byddant yn ei dreulio gyda phob rhiant
- sut y byddwch yn cefnogi’ch plant yn ariannol
Gallwch ddefnyddio cynghorydd cyfreithiol os ydych am wneud eich cytundeb yn rhwymol gyfreithiol.
Gallwch gytuno ar gynhaliaeth plant ar yr un pryd neu ar wahân.
Cael cymorth i gytuno
Gallwch wneud Cynllun Rhianta gyda’ch cyn-bartner. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfryngwr neu gael help arall i’ch helpu i ddod i gytundeb.
Gallwch ddarllen mwy am baratoi i wneud trefniadau a dod i gytundeb.
Gallwch gael cymorth a gwybodaeth gan y canlynol hefyd:
- Cyngor ar Bopeth
- Advice Now
- Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass Cymru)
Os na allwch gytuno ar bopeth
Gallwch ofyn i’r llys benderfynu ar unrhyw beth na allwch gytuno arno ar ôl defnyddio cyfryngwr neu gael cymorth arall.
Mae’n rhaid i chi ddangos eich bod wedi mynychu cyfarfod i weld a yw cyfryngu yn iawn i chi cyn gwneud cais i lys. Ni fydd yn rhaid i chi wneud hynny mewn rhai achosion, er enghraifft os oes cam-drin domestig wedi digwydd neu os yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gysylltiedig â’r achos.
Ni fyddwch fel arfer yn cael cymorth cyfreithiol i helpu gyda chostau llys oni bai eich bod yn gwahanu oddi wrth bartner ymosodol.
Gallwch gysylltu â Cyngor ar Bopeth i gael cyngor ar beth i’w wneud yn eich sefyllfa.