Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Cael cymorth i gytuno
Gall cyfryngwr eich helpu chi a’ch cyn-bartner i gytuno ar drefniadau plant, heb gymryd ochr.
Nid yw cyfryngu yr un peth â chwnsela. Gall eich helpu i gytuno ar fanylion sut y byddwch yn gofalu am eich plant, megis:
- ble byddant yn byw
- pryd fyddant yn treulio amser gyda phob rhiant
- pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy’n digwydd (galwadau ffôn, er enghraifft)
- taliadau cynhaliaeth plant
Bydd pris cyfryngu yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a faint o sesiynau yr ewch iddynt.
Efallai y gallwch gael hyd at £500 tuag at gost cyfryngu drwy’r Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu os ydych ar incwm isel.
Ar ddiwedd y broses cyfryngu byddwch yn cael dogfen yn dangos yr hyn y gwnaethoch gytuno arno. Nid yw’r cytundeb hwn yn rhwymol yn gyfreithiol. Gallwch ei wneud yn rhwymol yn gyfreithiol trwy gael cyfreithiwr i ddrafftio gorchymyn cydsynio i lys ei gymeradwyo ar ôl cyfryngu.
Gall y cyfryngwr benderfynu nad yw cyfryngu yn iawn i chi (er enghraifft, os bu cam-drin domestig a bod angen i chi fynd i’r llys yn lle).
Os oes angen mwy o help arnoch i gytuno
Gallwch gael help gyda pharatoi i wneud trefniadau a dod i gytundeb.
Gallwch hefyd:
- holi cyfreithiwr am ffyrdd eraill o ddatrys materion y tu allan i’r llys
- cysylltu â Cyngor ar Bopeth i gael gwybod am unrhyw help arall y gallwch ei gael
- gofyn am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, os yw materion fel trais domestig neu gam-drin cyffuriau yn ei gwneud yn anos cytuno ar drefniadau plant