Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Os ydych yn cytuno
Nid oes rhaid i chi lenwi unrhyw waith papur swyddogol os ydych yn cytuno ynghylch trefniadau plant.
Gallwch ysgrifennu’r hyn rydych wedi cytuno arno mewn Cynllun Rhianta os ydych eisiau cofnod.
Os ydych am wneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol, gall cynghorydd cyfreithiol helpu gyda’r gwaith papur.
Gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol
Gallwch gael cynghorydd cyfreithiol i ddrafftio ‘gorchymyn cydsynio’ os ydych am gael cytundeb sy’n rhwymol yn gyfreithiol.
Mae gorchymyn cydsynio yn ddogfen gyfreithiol sy’n cadarnhau eich cytundeb. Gall gynnwys manylion am sut y byddwch yn gofalu am eich plant, megis:
- ble maent yn byw
- pryd fyddant yn treulio amser gyda phob rhiant
- pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy’n digwydd (galwadau ffôn, er enghraifft)
Rhaid i chi a’ch cyn-bartner ill dau lofnodi’r gorchymyn cydsynio drafft. Bydd angen i chi hefyd gael cymeradwyaeth i’r gorchymyn cydsynio.
Cael cymeradwyaeth i’ch gorchymyn cydsynio.
Mae angen i chi neu’ch cyn-bartner wneud cais am orchymyn llys er mwyn i’ch gorchymyn cydsynio gael ei gymeradwyo. Gall eich cynghorydd cyfreithiol eich helpu gyda’ch cais.
Ni fydd angen i chi ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu.
Cadwch gopi o’r ffurflen a’r gorchymyn cydsynio drafft.
Ar ôl i’r llys gael eich gwaith papur
Fel arfer nid oes gwrandawiad llys. Bydd barnwr yn cymeradwyo eich gorchymyn cydsynio i’w wneud yn rhwymol yn gyfreithiol os yw’n meddwl eich bod wedi gwneud penderfyniadau er lles eich plant.
Os nad yw’r barnwr o’r farn bod eich gorchymyn cydsynio er lles eich plant, gall:
- newid eich gorchymyn cydsynio
- gwneud gorchymyn llys gwahanol i benderfynu beth sydd orau i’ch plant