Arian ac eiddo pan fyddwch yn ysgaru neu'n gwahanu
Cael cytundeb ariannol
Pan fyddwch yn ysgaru neu’n dod â phartneriaeth sifil i ben mae angen i chi a’ch cyn-bartner gytuno sut i rannu’ch arian.
Mae hyn yn cynnwys penderfynu sut rydych yn mynd i rannu:
- pensiynau
- eiddo
- cynilion
- buddsoddiadau
Efallai y byddwch yn cael pethau fel:
- cyfran o bensiwn eich partner - gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth neu gynlluniau pensiwn preifat
- taliadau cynhaliaeth rheolaidd i helpu gyda phlant neu gostau byw
Fel arfer, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar sut i rannu eich arian ac eiddo.
Mae’r rheolau’n wahanol os nad oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Bydd yn rhaid i chi dal gytuno ar daliadau cynhaliaeth plant ar gyfer unrhyw blant.
Mae yna opsiynau gwahanol yn berthnasol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.
Gwneud cytundeb yn rhwymol gyfreithiol
Os ydych chi a’ch cyn-bartner yn cytuno ar sut i rannu arian ac eiddo, mae angen i chi wneud cais am orchymyn cydsynio i’w wneud yn rhwymol gyfreithiol.
Cael cymorth i gytuno
Gallwch ddefnyddio cyfryngwr neu gael help arall i ddatrys problemau y tu allan i’r llys.
Cael y llys i benderfynu
Os na allwch gytuno ar bopeth, gallwch ofyn i’r llys wneud gorchymyn ariannol.