Arian ac eiddo pan fyddwch yn ysgaru neu'n gwahanu
Treth wrth drosglwyddo asedau
Fel arfer nid oes rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os ydych yn rhoi, neu fel arall yn ‘gwaredu’, asedau i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil cyn i chi derfynu’r ysgariad neu bartneriaeth sifil.
Mae asedau’n cynnwys cyfranddaliadau a buddsoddiadau, rhai eiddo personol ac eiddo. Fel arfer nid oes rhaid i chi dalu treth os ydych yn trosglwyddo neu’n gwerthu eich prif gartref.
Os byddwch yn trosglwyddo ased pan fyddwch wedi gwahanu
Os oeddech yn byw gyda’ch gilydd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn dreth pan wnaethoch drosglwyddo’r ased, mae’r rheolau arferol ar gyfer priod a phartneriaid sifil yn berthnasol.
Fel arall efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Bydd angen i chi gael prisiad o’r ased ar y dyddiad trosglwyddo, a’i ddefnyddio i gyfrifo’r enillion neu’r colledion.
Mae’r flwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Os byddwch yn trosglwyddo ased ar ôl i chi ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar asedau y byddwch yn eu trosglwyddo ar ôl i’ch perthynas ddod i ben yn gyfreithiol.
Mae’r rheolau ar gyfer cyfrifo’ch enillion neu golledion yn gymhleth. Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) neu ceisiwch gymorth treth proffesiynol, gan, er enghraifft, cyfrifydd neu gynghorydd treth. Bydd angen i chi ddweud wrthynt beth yw dyddiad:
- y gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt os ydych wedi ysgaru
- y gorchymyn terfynol os ydych wedi dod â phartneriaeth sifil i ben
- unrhyw orchymyn llys, pe trosglwyddwyd asedau fel hyn
- unrhyw gontract arall sy’n dangos trosglwyddo asedau