Taliadau Cynhaliaeth

Weithiau bydd y llys yn dweud wrth yr unigolyn sydd â’r incwm uwch i wneud taliadau cynhaliaeth rheolaidd i helpu gyda chostau byw’r unigolyn arall.

Gelwir hyn yn ‘orchymyn cynhaliaeth’.

Gellir gosod taliad cynhaliaeth ar gyfer:

  • cyfnod cyfyngedig o amser
  • nes bydd un ohonoch yn marw, yn priodi neu’n ymrwymo i bartneriaeth sifil newydd

Gellir newid y taliad hefyd os bydd un ohonoch yn colli eich swydd neu’n cael gwaith sy’n talu’n well o lawer.

Cynhaliaeth plant

Gall y llys hefyd benderfynu ar gynhaliaeth plant, ond yn aml mae hyn yn cael ei drefnu gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Darllenwch fwy am wneud trefniadau i ofalu am blant pan fyddwch yn ysgaru neu’n gwahanu.