Arian ac eiddo pan fyddwch yn ysgaru neu'n gwahanu
Cael y llys i benderfynu
Os na allwch chi a’ch cyn-bartner gytuno ar sut i rannu’ch arian, gallwch ofyn i lys wneud gorchymyn ariannol (a elwir hefyd yn llwybr ‘sy’n cael ei herio’ neu ‘orchymyn llareiddiad ategol’).
Mae hyn yn golygu y bydd y llys yn penderfynu sut y caiff asedau eu rhannu. Mae cael y llys i benderfynu fel arfer yn cymryd mwy o amser ac mae’n costio mwy nag os byddwch chi a’ch cyn-bartner yn dod i gytundeb.
Rhaid i chi fynychu cyfarfod am gyfryngu cyn y gallwch wneud cais i’r llys i benderfynu - ac eithrio mewn achosion penodol (os bu cam-drin domestig, er enghraifft).
Bydd gorchymyn ariannol yn disgrifio sut rydych yn mynd i rannu asedau fel:
- pensiynau
- eiddo
- cynilion
- buddsoddiadau
Gall hefyd gynnwys trefniadau ar gyfer taliadau cynhaliaeth, gan gynnwys cynhaliaeth plant.
Pryd i wneud cais am orchymyn ariannol
Gallwch wneud cais am orchymyn ariannol pan fyddwch yn gwneud cais am eich ysgariad neu ddiddymiad, neu unrhyw bryd ar ôl hynny.
Fel arfer mae’n haws gwneud cais:
- ar ôl i chi gael eich gorchymyn amodol neu ddyfarniad nisi – fel arfer, ni all y llys wneud gorchymyn ariannol cyn hyn
- cyn i chi gael eich gorchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt – os byddwch yn gwneud cais ar ôl hyn, efallai y bydd canlyniadau ariannol, yn enwedig ar gyfer pensiynau
Dim ond ar ôl i chi gael eich gorchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt y bydd y gorchymyn ariannol yn dod i rym.
Sut i wneud cais
Mae angen i chi lenwi ffurflen gais gorchymyn ariannol (Ffurflen A).
Ar ôl ei llenwi, anfonwch y ffurflen i’ch llys rhwymedi ariannol lleol. Cadwch gopi i chi’ch hun.
Os oes angen i chi anfon rhagor o ddogfennau ar ôl cyflwyno eich ffurflen gais am orchymyn ariannol (Ffurflen A), postiwch nhw i:
HMCTS Financial Remedy
PO Box 12746
Harlow
CM20 9QZ
Gallwch dalu cynghorydd cyfreithiol i’ch helpu i wneud cais am orchymyn ariannol gan y llys.
Ar ôl i chi wneud cais
Mae yna dri cham:
- yr apwyntiad cyntaf - gwrandawiad byr gyda’r barnwr i drafod eich cais
- apwyntiad datrys anghydfod ariannol (FDR) - i’ch helpu i ddod i gytundeb heb fod angen gwrandawiad terfynol (efallai y bydd angen mwy nag un apwyntiad arnoch)
- gwrandawiad terfynol - os na allwch ddod i gytundeb, dyma pryd y bydd barnwr yn penderfynu sut mae’n rhaid i chi rannu eich arian
Bydd y llys yn anfon manylion atoch chi a’ch cyn-bartner pan fydd yr apwyntiad cyntaf wedi’i drefnu. Mae hyn fel arfer 12 i 14 wythnos ar ôl i chi wneud cais.
Cyn yr apwyntiad cyntaf
Mae angen i chi a’ch cyn-bartner lenwi datganiad ariannol ar gyfer gorchymyn ariannol (Ffurflen E) i ddangos dadansoddiad o’ch eiddo a’ch dyledion. Mae hyn yn cynnwys rhoi amcangyfrif o’ch costau byw yn y dyfodol.
Bydd angen i chi hefyd gasglu dogfennau am eich arian, er enghraifft:
- cytundebau rhent neu forgais
- dogfennau pensiwn
- cytundebau benthyciadau
- prawf o’ch incwm cyflog, er enghraifft P60 neu slipiau cyflog diweddar
- manylion eiddo personol gwerth mwy na £500, er enghraifft car neu gynnwys tŷ
Pa mor hir mae’n ei gymryd
Mae’n dibynnu ar:
- faint o apwyntiadau datrys anghydfod ariannol sydd eu hangen arnoch
- os oes angen gwrandawiad terfynol arnoch
Gall fod sawl mis rhwng yr apwyntiadau.
Sut mae’r llys yn penderfynu
Os na allwch ddod i gytundeb, bydd barnwr yn penderfynu sut y caiff asedau eu rhannu. Byddant yn seilio eu penderfyniad ar ba mor hir yr ydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, yn ogystal â’ch:
- oedran
- gallu i ennill
- eiddo ac arian
- costau byw
- safon byw
- anghenion a chyfrifoldebau ariannol
- eich rôl o ran gofalu am y teulu, er enghraifft os mai chi oedd y prif enillydd neu’n gofalu am y teulu neu’r cartref
- anabledd neu gyflwr iechyd, os oes gennych rai
Bydd y barnwr yn penderfynu ar y ffordd decaf i rannu’r asedau os oes digon i ddiwallu anghenion pawb. Byddant yn gwneud trefniadau ar gyfer unrhyw blant yn gyntaf - yn enwedig eu trefniadau cartref a chynhaliaeth plant. Nid yw’r rheswm dros ysgariad neu ddiddymiad yn cael ei ystyried.
Bydd y barnwr fel arfer yn ceisio trefnu ‘toriad terfynol’, fel bod popeth yn cael ei rannu, ac nid oes gennych unrhyw gysylltiadau ariannol â’ch gilydd mwyach.
Faint mae’n ei gostio
Ffi’r llys yw £303.
Mae ffioedd cynghorydd cyfreithiol yn amrywio yn dibynnu ar eu profiad a lle rydych chi’n byw. Bydd cyfanswm y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint o apwyntiadau datrys anghydfod ariannol fydd eu hangen arnoch a ph’un a fydd gwrandawiad terfynol ai peidio.
Gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda chostau llys mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os ydych yn gwahanu oddi wrth bartner treisgar.
Rhagor o gymorth a chyngor
Gallwch wneud y canlynol:
- cael gwybodaeth a chyngor gan Cyngor ar Bopeth
- darllen cyfarwyddyd i’ch helpu i roi trefn ar faterion ariannol pan fyddwch yn ysgaru
- dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am orchymyn ariannol