Arian ac eiddo pan fyddwch yn ysgaru neu'n gwahanu
Os ydych yn cytuno
Fel arfer, mae’n symlach ac yn costio llai os ydych yn cytuno sut i rannu eich arian a’ch eiddo. Cael cymorth i gytuno ar faterion.
Gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol
Er mwyn gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol mae angen i chi ddrafftio gorchymyn cydsynio a gofyn i lys ei gymeradwyo.
Os nad yw eich cytundeb yn rhwymol gyfreithiol, ni all llys ei orfodi os bydd unrhyw faterion yn codi yn ddiweddarach.
Mae gorchymyn cydsynio yn ddogfen gyfreithiol sy’n cadarnhau eich cytundeb. Mae’n esbonio sut rydych chi’n mynd i rannu asedau fel:
- pensiynau
- eiddo
- cynilion
- buddsoddiadau
Gall hefyd gynnwys trefniadau ar gyfer taliadau cynhaliaeth, gan gynnwys cynhaliaeth plant.
Gallwch geisio cyngor cyfreithiol neu gallwch ofyn i gyfreithiwr neu arbenigwr ysgariadau ddrafftio gorchymyn cydsynio ar eich cyfer.
Pryd i ofyn i’r llys am gymeradwyaeth
Gallwch ofyn i’r llys gymeradwyo eich gorchymyn cydsynio drafft pan fyddwch yn gwneud cais am eich ysgariad neu ddiddymiad, neu unrhyw bryd ar ôl hynny.
Fel arfer mae’n haws gofyn am gymeradwyaeth:
- ar ôl i chi gael eich gorchymyn amodol neu ddyfarniad nisi – ni all y llys gymeradwyo gorchymyn cydsynio cyn hyn
- cyn i chi gael eich gorchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt – os gofynnwch ar ôl hyn, efallai y bydd canlyniadau ariannol, yn enwedig ar gyfer pensiynau
Dim ond ar ôl i chi gael eich gorchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt y bydd y gorchymyn cydsynio yn dod i rym.
Sut i ofyn i’r llys am gymeradwyaeth
Rhaid i chi a’ch cyn-bartner:
- ddrafftio gorchymyn cydsynio
- llofnodi’r gorchymyn cydsynio drafft - mae angen 2 lungopi o’r copi gwreiddiol wedi’i lofnodi hefyd
- llenwi ffurflen datganiad o wybodaeth
Mae angen i un ohonoch hefyd lenwi hysbysiad o gais am orchymyn ariannol.
Os ydych yn dod â phartneriaeth sifil i ben neu’n gwahanu’n gyfreithiol, anfonwch y ffurflenni wedi’u llofnodi a chopïau ynghyd â’r ffi o £58 i’r llys sy’n delio â’ch gwaith papur. Cadwch eich copïau eich hun.
Os ydych yn ysgaru, anfonwch y ffurflenni wedi’u llofnodi a chopïau ynghyd â’r ffi o £58 i:
HMCTS Financial Remedy
PO Box 12746
Harlow
CM20 9QZ
Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.
Fel arfer nid oes gwrandawiad llys. Bydd barnwr yn cymeradwyo eich gorchymyn cydsynio i’w wneud yn rhwymol yn gyfreithiol os yw’n meddwl ei fod yn deg.
Os nad yw’n meddwl ei fod yn deg, gallai ofyn i chi ei newid.
Faint mae’n ei gostio
Ffi’r llys yw £58.
Mae ffioedd cynghorydd cyfreithiol yn amrywio yn dibynnu ar eu profiad a’u lleoliad.