Deall eich bil treth Hunanasesiad
Cyfrifiad treth (SA302)
Mae’ch cyfrifiad treth (SA302) yn dangos y canlynol:
-
cyfanswm yr incwm y mae angen i chi dalu treth arno
-
unrhyw lwfansau a rhyddhadau sydd gennych
-
y cyfanswm sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth
-
sut mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi cyfrifo’r swm sydd arnoch
Nid yw’n dangos y canlynol:
-
taliadau ar gyfrif (taliadau tuag at eich bil nesaf) yr ydych wedi’u gwneud
-
taliadau yr ydych wedi’u gwneud i mewn i Gynllun Talu Cyllidebol
-
symiau eraill sydd heb eu talu (fel cosbau neu drethi sydd heb eu talu)
Pryd y byddwch yn cael eich cyfrifiad treth
Byddwch yn cael cyfrifiad treth wrth i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, neu os bydd y swm sydd arnoch yn newid. Os ydych yn cyflwyno ar-lein, bydd eich cyfrifiad treth ar gael i’w weld yn eich cyfrif ar-lein cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Ar ôl cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, ni fyddwch yn gallu bwrw golwg arall dros eich cyfrifiad treth am hyd at 72 awr. Os bydd eich taliad yn ddyledus yn ystod yr amser hwn, bydd angen i chi gadw copi o’ch cyfrifiad treth cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur, bydd CThEF yn anfon eich cyfrifiad treth atoch drwy’r post.
Sut i gyfrifo faint o dreth y bydd angen i chi ei thalu
Bydd CThEF yn anfon datganiad Hunanasesiad atoch sy’n dangos faint o dreth y bydd angen i chi ei thalu.
Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn hwyr neu’n ei chyflwyno’n agos at y dyddiad cau
Mae’n bosibl na fydd eich datganiad yn cyrraedd cyn dyddiad dyledus eich taliad. Os nad oes gennych ddatganiad, bydd angen i chi wirio’ch cyfrif ar-lein a bwrw golwg dros eich balans presennol er mwyn cyfrifo faint o dreth sydd arnoch.
Cael copi o’ch cyfrifiad treth
Dysgwch sut i gael copi o’ch cyfrifiad treth SA302 (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft, os ydych yn gwneud cais am forgais neu os bydd angen cyfrifiad treth arnoch ar bapur swyddogol CThEF.