Deall eich bil treth Hunanasesiad

Sgipio cynnwys

Taliadau ar gyfrif

Mae ‘taliadau ar gyfrif’ yn daliadau a wneir ymlaen llaw tuag at eich bil treth (gan gynnwys Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 os ydych yn hunangyflogedig).

Mae angen i chi wneud 2 daliad ar gyfrif bob blwyddyn oni bai bod yr isod yn berthnasol:

  • roedd eich bil treth Hunanasesiad diwethaf yn llai na £1,000
  • rydych eisoes wedi talu mwy nag 80% o’r holl dreth sydd arnoch – er enghraifft, drwy’ch cod treth neu am fod eich banc eisoes wedi didynnu llog ar eich cynilion

Mae swm pob taliad yn hanner eich bil treth ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Mae taliadau’n ddyledus erbyn canol nos ar 31 Ionawr a 31 Gorffennaf.

Os oes gennych dreth i’w thalu o hyd ar ôl i chi wneud eich taliadau ar gyfrif, mae’n rhaid i chi wneud ‘taliad mantoli’ erbyn canol nos ar 31 Ionawr y flwyddyn nesaf.

Enghraifft Eich bil am flwyddyn dreth 2022 i 2023 yw £3,000. Gwnaethoch 2 daliad o £900 yr un (£1,800 i gyd) ar gyfrif tuag at y bil hwn yn 2023.

Cyfanswm y dreth i’w dalu erbyn canol nos ar 31 Ionawr 2024 yw £2,700. Mae hyn yn cynnwys:

  • eich ‘taliad mantoli’ o £1,200 ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 (£3,000 llai £1,800)
  • y taliad ar gyfrif cyntaf o £1,500 (hanner eich bil treth ar gyfer 2022 i 2023) tuag at eich bil treth ar gyfer 2023 i 2024

Mae’n rhaid i chi dalu’ch ail daliad ar gyfrif o £1,500 erbyn canol nos ar 31 Gorffennaf 2024.

Os yw’ch bil treth ar gyfer 2023 i 2024 yn fwy na £3,000 (cyfanswm y 2 daliad ar gyfrif), bydd angen i chi wneud ‘taliad mantoli’ erbyn 31 Ionawr 2025.

Nid yw taliadau ar gyfrif yn cynnwys unrhyw beth sydd arnoch ar gyfer enillion cyfalaf neu fenthyciad myfyriwr (if you’re self-employed) – byddwch yn talu’r rheiny yn eich ‘taliad mantoli’.

Gwirio’ch taliadau ar gyfrif

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein.

  2. Dewiswch yr opsiwn i fwrw golwg ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiweddaraf.

  3. Dewiswch ‘Bwrw golwg ar ddatganiadau’.

Yna, byddwch yn gallu gweld:

  • taliadau ar gyfrif rydych eisoes wedi’u gwneud
  • taliadau y mae angen i chi eu gwneud tuag at eich bil treth nesaf

Gostwng eich taliadau ar gyfrif

I ostwng eich taliadau ar gyfrif ar-lein

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein.

  2. Dewiswch yr opsiwn i fwrw golwg ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiweddaraf.

  3. Dewiswch ‘Gostwng taliadau ar gyfrif’.

I ostwng eich taliadau ar gyfrif drwy’r post

I wneud cais drwy’r post anfonwch Ffurflen SA303 i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ym Mhorthmadog.

Os ydych yn gordalu neu’n tandalu

Gallech dalu’r swm anghywir os yw’ch bil treth yn uwch neu’n is na’r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl.

Os ydych yn gordalu, bydd CThEM yn anfon ad-daliad atoch.

Os ydych yn tandalu, bydd llog yn cael ei godi arnoch.