Hawlio ad-daliad treth

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael ad-daliad treth os ydych wedi talu gormod o dreth. Gallwch wirio sut i hawlio ad-daliad treth yn lle.

Mae’n bosibl na chewch ad-daliad os oes gennych dreth sy’n ddyledus yn ystod y 45 diwrnod nesaf (er enghraifft ar gyfer taliad ar gyfrif). Yn hytrach, caiff yr arian ei ddidynnu oddi wrth y dreth sydd arnoch.

Os ydych eisoes wedi hawlio ad-daliad treth

Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF ynghylch eich hawliad.

Gall statws eich ad-daliad ddangos fel ‘wrthi’n aros’ yn eich cyfrif treth ar-lein. Mae hyn yn golygu bod yr ad-daliad wedi’i greu ond mae angen ei gymeradwyo a’i dalu o hyd.