Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych o’r farn nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach.
Os yw CThEF yn cytuno, bydd yn anfon llythyr atoch i gadarnhau nad oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os na fydd CThEF yn cytuno cyn y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad, sef 31 Ionawr.
Mae’n bosibl na fydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach oherwydd, er enghraifft:
-
nid ydych yn rhoi eiddo ar osod mwyach
-
nid ydych yn talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel mwyach
-
mae eich incwm yn is na’r trothwy o £150,000
Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.
Os nad ydych yn hunangyflogedig mwyach
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig.
Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod i CThEF fod eich hunangyflogaeth wedi dod i ben, mae’n bosibl y bydd CThEF yn dal i ofyn i chi anfon Ffurflenni Treth ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Os ydych wedi gwirio ac nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF.
Rhoi gwybod i CThEF nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach
Gallwch roi gwybod i CThEF nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach drwy un o’r dulliau canlynol:
-
drwy lenwi ffurflen ar-lein - bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn cyflwyno’r ffurflen
Bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch rhif UTR.