Rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych wedi rhoi’r gorau i fod yn unig fasnachwr neu os ydych yn dod â phartneriaeth fusnes i ben neu’n gadael partneriaeth fusnes.
Bydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth derfynol atom hefyd.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg
Sut i roi gwybod i CThEF
Rhoi gwybod i CThEF eich bod yn rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig.
Bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch rhif UTR.
Os byddwch yn ennill £1,000 neu lai yn y flwyddyn dreth hon
Nid oes angen i chi fod wedi cofrestru fel unigolyn hunangyflogedig os ydych yn ennill £1,000 neu lai mewn blwyddyn dreth fel unig fasnachwr.
Ond, gallwch ddewis aros yn gofrestredig i wneud y canlynol:
-
profi eich bod yn hunangyflogedig, er enghraifft, i hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
-
gwneud taliadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol
Os penderfynwch roi’r gorau i fod yn hunangyflogedig oherwydd byddwch yn ennill £1,000 neu lai, rhowch wybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau ar 5 Ebrill (sef, diwedd y flwyddyn dreth).
Ffurflenni Treth
Mae’n rhaid i chi anfon ffurflen dreth Hunanasesiad cyn y dyddiad cau os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu fel unig fasnachwr neu os ydych yn gadael partneriaeth fusnes.
Pan fyddwch yn anfon y Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
cyfrifo’ch incwm masnachu
-
adio’ch treuliau caniataol (yn agor tudalen Saesneg) - mae’n bosibl y bydd hyn yn cynnwys rhai o’r costau sy’n gysylltiedig â chau eich busnes, er enghraifft costau ffôn, rhyngrwyd a chostau postio er mwyn rhoi gwybod i bobl
-
cyfrifo’ch lwfans cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys unrhyw gostau mantoli os ydych wedi gwerthu offer neu beiriannau’r busnes
-
cyfrifo a oes arnoch chi Dreth Enillion Cyfalaf ar unrhyw asedion rydych wedi’u gwerthu neu wedi’u ‘gwaredu’
-
cyfrifo’ch elw neu eich colled derfynol
Os yw eich partneriaeth fusnes yn dod i ben, dylai’r partner enwebedig hefyd anfon Ffurflen Dreth Partneriaeth derfynol erbyn y dyddiad cau.
Gallwch gyflogi rhywun proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft, cyfrifydd) os oes angen help arnoch gyda’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Rhyddhad treth
Efallai y byddwch yn gallu lleihau eich bil treth terfynol drwy hawlio:
-
Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) - gall hyn leihau faint o Dreth Enillion Cyfalaf y mae’n rhaid i chi ei thalu
-
rhyddhad gorgyffwrdd - gall hyn eich atal rhag cael eich trethu ddwywaith ar eich elw pan fyddwch yn rhoi’r gorau i fasnachu yn ystod blwyddyn dreth
-
rhyddhad colled terfynol - gall hyn wrthbwyso colled a wnaed yn eich blwyddyn dreth ddiwethaf yn erbyn eich elw yn y 3 blwyddyn dreth flaenorol
Mae rhyddhadau eraill i leihau swm y Dreth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg) y mae’n bosibl y gallwch eu hawlio.
Cofrestru ar gyfer TAW
Bydd yn rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad TAW os ydych chi neu’ch partneriaeth wedi cofrestru.
Os ydych yn cyflogi pobl
Mae angen i chi gau eich cynllun TWE ac anfon adroddiadau cyflogres terfynol at CThEF os ydych yn rhoi’r gorau i gyflogi staff (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn ansolfent
Fel arfer, byddwch yn agored yn bersonol i ddyledion eich busnes. Gall eich credydwyr fynd â chi i’r llys neu eich gwneud yn fethdalwr os na fyddwch yn talu.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu dod o hyd i ddewis arall, er enghraifft Trefniant Gwirfoddol Unigol (yn agor tudalen Saesneg).
Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Mae’n rhaid i chi ffonio’r Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF cyn gynted â phosibl os ydych wedi cofrestru ac yn rhoi’r gorau i fasnachu fel contractwr neu is-gontractwr.