Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych yn hunangyflogedig
-
nid ydych yn hunangyflogedig ond rydych yn dal i anfon Ffurflen Dreth, er enghraifft oherwydd eich bod yn cael incwm o roi eiddo ar osod
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud y canlynol:
-
bwrw golwg dros Ffurflenni Treth rydych wedi’u cyflwyno yn y gorffennol
-
gwirio’ch manylion
-
argraffu’ch cyfrifiad treth
-
cofrestru i gael hysbysiadau di-bapur
Os na wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth y llynedd
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych:
-
yn cyflwyno am y tro cyntaf
-
wedi anfon Ffurflen Dreth yn y gorffennol ond heb anfon un ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Pryd na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein:
-
ar gyfer partneriaeth
-
os oeddech yn byw dramor fel person nad oedd yn breswyl (yn agor tudalen Saesneg)
-
i roi gwybod am ‘enillion trethadwy (yn agor tudalen Saesneg)’ lluosog, er enghraifft o yswiriant bywyd
-
os ydych yn cael incwm o ymddiriedolaeth, os ydych yn danysgrifennwr Lloyd’s neu os ydych yn weinidog crefyddol
Defnyddiwch feddalwedd fasnachol (yn agor tudalen Saesneg) neu, yn lle hynny, gallwch lawrlwytho ffurflenni eraill neu gallwch ofyn amdanynt.
Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth SA100 ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 neu cyn hynny, mae ffurflenni ar gael o’r Archifau Gwladol.
Mewngofnodi i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Bydd hefyd angen eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) arnoch.
Nid oes rhaid i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth ar un tro. Gallwch gadw’ch cofnod a mynd yn ôl ato’n nes ymlaen os oes angen.
Profi pwy ydych er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn
Byddwch yn cael gwybod os oes angen profi pwy ydych pan fyddwch yn mewngofnodi. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n cynnwys defnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru.