Ymddiriedolaethau a threthi
Ymddiriedolwyr - cyfrifoldebau treth
Fel yr ymddiriedolwr, rydych yn gyfrifol am roi gwybod am dreth a’i thalu ar ran yr ymddiriedolaeth.
Os oes 2 neu fwy o ymddiriedolwyr, enwebwch un fel yr ‘ymddiriedolwr sy’n gweithredu’n bennaf’ i reoli treth yr ymddiriedolaeth. Mae’r ymddiriedolwyr eraill yn dal i fod yn atebol, a gellir codi treth a llog arnynt os nad yw’r ymddiriedolaeth yn talu.
Cofrestru ymddiriedolaeth
Ar ôl i ymddiriedolaeth ddod yn agored i dreth, rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth gyda Chyllid a Thollau EF.
Anfon Ffurflenni Treth
Rhaid i chi roi gwybod am incwm ac enillion yr ymddiriedolaeth ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad ymddiriedolaeth ac ystâd ar ôl diwedd bob blwyddyn dreth. Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- prynu meddalwedd (yn agor tudalen Saesneg) i’w hanfon drwy ddull electronig erbyn 31 Ionawr
- llenwi ffurflen bapur SA900 (yn agor tudalen Saesneg) a’i phostio i CThEF erbyn 31 Hydref (3 mis yn gynharach)
Gallwch hefyd cael help, er enghraifft gan CThEF neu drwy gael cyfrifydd i wneud eich Ffurflen Dreth ar eich rhan.
Ar ôl i chi anfon eich Ffurflen Dreth, bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch. Bydd angen i chi dalu’r bil Hunanasesiad erbyn y dyddiad cau.
Bydd angen i chi gasglu a chadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft, cyfriflenni banc) er mwyn llenwi’ch Ffurflen Dreth.
Rhoi gwybod i fuddiolwyr am dreth ac incwm
Os yw’r buddiolwr yn gwneud cais am un, mae’n rhaid i chi roi datganiad iddo sy’n dangos swm yr incwm a’r dreth a dalwyd gan yr ymddiriedolaeth. Gallwch ddefnyddio ffurflen R185 (trust) (yn agor tudalen Saesneg) i wneud hyn. Mae yna ffurflen wahanol os oes angen i chi roi datganiad i setlwr sy’n cadw buddiant (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes mwy nag un buddiolwr, mae’n rhaid i chi roi’r wybodaeth hon i bob un ohonynt mewn perthynas â’r swm y mae bob un yn ei gael.
Taliadau budd-dal marwolaeth o gynllun pensiwn
Rhaid i chi roi gwybodaeth ychwanegol i’r buddiolwr os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gwneud taliad a ariannir gan gyfandaliad trethadwy (yn agor tudalen Saesneg) o gynllun pensiwn
- mae deiliad y pensiwn wedi marw
Defnyddiwch ffurflen R185 (LSDB) os ydych yn ymddiriedolwr. Mae yna ffurflen wahanol os ydych yn weinyddwr pensiwn.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r buddiolwr cyn pen 30 diwrnod.
Cyfrifoldebau eraill
Mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am bethau eraill. Mae angen i chi wneud y canlynol:
- defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein er mwyn rhoi gwybod i CThEF os oes yna unrhyw newidiadau i’r ymddiriedolaeth (yn agor tudalen Saesneg)
- llenwch ffurflen IHT100 (yn agor tudalen Saesneg) pan fo angen i’r ymddiriedolaeth dalu Treth Etifeddiant.
Mae’ch cyfrifoldebau eraill fel ymddiriedolwr yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth ac unrhyw gyfarwyddiadau gan y person a greodd yr ymddiriedolaeth yn y weithred ymddiriedolaeth.