Ymddiriedolaethau a threthi
Ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf
Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg) yw treth ar yr elw (‘enillion’) pan fo rhywbeth (‘ased’) sydd wedi cynyddu mewn gwerth yn cael ei gymryd allan o ymddiriedolaeth neu’n cael ei roi i mewn i un.
Pryd mae’n bosibl y bydd Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy
Os rhoddir asedion i mewn i ymddiriedolaeth
Caiff treth ei thalu gan naill y person sy’n:
- gwerthu’r ased i’r ymddiriedolaeth
- trosglwyddo’r ased (y ‘setlwr’)
Os cymerir asedion allan o ymddiriedolaeth
Fel arfer, rhaid i’r ymddiriedolwyr dalu’r dreth os ydynt yn gwerthu neu’n trosglwyddo asedion ar ran y buddiolwr.
Nid oes treth i’w thalu mewn ymddiriedolaethau gwag os yw’r asedion yn cael eu trosglwyddo i’r buddiolwr.
Weithiau, efallai y caiff ased ei drosglwyddo i rywun arall ond nid yw Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy. Mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn marw ac mae ‘buddiant mewn meddiant’ yn dod i ben.
Mae buddiolwr yn cael rhywfaint o’r asedion, neu’r holl asedion, sydd mewn ymddiriedolaeth
Weithiau, daw ‘hawl absoliwt’ i fuddiolwr ymddiriedolaeth, a gall roi gwybod i’r ymddiriedolwyr beth i’w wneud â’r asedion, er enghraifft pan fyddant yn cyrraedd oedran penodol.
Yn yr achos hwn, mae’r ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf yn seiliedig ar werth marchnadol (yn agor tudalen Saesneg) yr asedion pan fo’r buddiolwr yn cael yr hawl iddynt.
Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU
Mae’r rheolau ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf ar ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) yn gymhleth. Gallwch gael help gyda’ch treth (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfrifo cyfanswm yr enillion
Rhaid i ymddiriedolwyr gyfrifo cyfanswm yr enillion trethadwy (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwybod a oes angen iddynt dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Costau a ganiateir
Gall ymddiriedolwyr ddidynnu costau er mwyn lleihau enillion - mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- cost yr eiddo (gan gynnwys unrhyw ffioedd gweinyddu)
- ffioedd proffesiynol, er enghraifft ar gyfer cyfreithiwr neu brocer stoc
- costau gwella eiddo neu dir er mwyn cynyddu ei werth, er enghraifft adeiladu ystafell wydr (ond nid atgyweirio neu gynnal a chadw rheolaidd)
Rhyddhad Treth
Mae’n bosibl y bydd ymddiriedolwyr yn gallu lleihau neu ohirio swm y dreth y mae’r ymddiriedolaeth yn ei thalu os yw’r enillion yn gymwys ar gyfer ryddhad treth.
Rhyddhad | Disgrifiad |
---|---|
Rhyddhad Preswylfan Preifat (yn agor tudalen Saesneg) | Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf pan fyddant yn gwerthu eiddo y mae’r ymddiriedolaeth yn berchen arno. Mae’n rhaid iddo fod y prif fan preswylio ar gyfer rhywun sy’n cael byw yno o dan reolau’r ymddiriedolaeth. |
Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) | Mae ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf o 10% ar enillion cymwys os ydynt yn gwerthu asedion a ddefnyddir ym musnes buddiolwr, sydd bellach wedi dod i ben. Mae’n bosibl iddynt hefyd cael rhyddhad pan fyddant yn gwerthu cyfranddaliadau mewn cwmni lle’r oedd gan y buddiolwr o leiaf 5% o’r cyfranddaliadau a’r hawliau pleidleisio. |
Rhyddhad Daliol (yn agor tudalen Saesneg) | Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw dreth os ydynt yn trosglwyddo asedion i’r buddiolwyr (neu ymddiriedolwyr eraill mewn rhai achosion). Mae’r derbynnydd yn talu treth pan fydd yn gwerthu neu’n gwaredu’r asedion, oni bai ei bod hefyd yn hawlio rhyddhad. |
Lwfans rhydd o dreth
Yr unig adeg y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr dalu Treth Enillion Cyfalaf yw pan fo cyfanswm yr enillion trethadwy yn fwy na lwfans rhydd o dreth yr ymddiriedolaeth (sef y ‘swm eithriedig blynyddol’).
Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, y lwfans rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaethau yw:
-
£1,500
-
£3,000 os yw’r buddiolwr yn agored i niwed – person anabl neu blentyn sydd wedi colli rhiant
Os oes yna fwy nag un buddiolwr, gall y lwfans uwch fod yn berthnasol hyd yn oed os mai dim ond un ohonynt sy’n agored i niwed.
Gweler lwfansau rhydd o dreth ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
Gall y lwfans rhydd o dreth gael ei ostwng os yw setlwr yr ymddiriedolaeth wedi creu mwy nag un ymddiriedolaeth (‘setliad’) ers 6 Mehefin 1978.
Mae yna wybodaeth fwy manwl am Dreth Enillion Cyfalaf a Hunanasesiad ar gyfer ymddiriedolaethau (yn agor tudalen Saesneg).
Rhoi gwybod i CThEF am enillion
Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am unrhyw dreth sy’n ddyledus ar eiddo preswyl yn y DU, a’i thalu, gan ddefnyddio cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid iddynt wneud hyn cyn pen:
- 60 diwrnod o werthu’r eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau ar neu ar ôl 27 Hydref 2021
- 30 diwrnod o werthu’r eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau rhwng 6 Ebrill 2020 a 26 Hydref 2021
Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am asedion eraill sy’n cael eu gwerthu neu eu trosglwyddo ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad Ymddiriedolaeth ac Ystâd.
Ewch ati i lawrlwytho a llenwi ffurflen Treth Enillion Cyfalaf Ymddiriedolaeth ac Ystâd (SA905) (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn ymddiriedolwr ac yn anfon Ffurflen Dreth drwy’r post.
Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled.
Os oes angen rhagor o help arnoch
Mae yna arweiniad mwy manwl ar Dreth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).
Cysylltwch â CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen help arnoch.