Treth Enillion Cyfalaf: yr hyn yr ydych yn talu’r dreth arno, cyfraddau a lwfansau
Cyfrifo a oes angen i chi dalu
Mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu ased, os yw cyfanswm eich enillion trethadwy dros eich lwfans Treth Enillion Cyfalaf blynyddol.
Cyfrifo cyfanswm eich enillion trethadwy
-
Cyfrifwch yr ennill ar gyfer pob ased (neu ar gyfer eich cyfran chi o ased, os ydyw mewn perchnogaeth ar y cyd). Gwnewch hyn ar gyfer yr eiddo personol (yn agor tudalen Saesneg), y cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau (yn agor tudalen Saesneg), yr eiddo yn y DU neu’r asedion busnes (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi’u gwaredu yn y flwyddyn dreth.
-
Adiwch yr enillion o bob ased at ei gilydd.
-
Didynnwch unrhyw golledion caniataol.
Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Bydd angen i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu os yw’ch enillion trethadwy dros eich lwfans.
Os yw cyfanswm eich enillion yn llai na’r lwfans rhydd o dreth
Does dim rhaid i chi dalu treth os yw cyfanswm eich enillion trethadwy yn llai na’ch lwfans Treth Enillion Cyfalaf.
Mae angen i chi roi gwybod am eich enillion o hyd, a hynny ar eich Ffurflen Dreth, os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- roedd y cyfanswm y gwnaethoch werthu’r asedion amdano dros £50,000
- rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Mae’r rheolau hyn yn berthnasol o flwyddyn dreth 2023 i 2024 ymlaen.
Ar gyfer y blynyddoedd treth cyn 2023 i 2024, mae angen i chi roi gwybod am eich enillion o hyd, a hynny ar eich Ffurflen Dreth, os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- roedd y cyfanswm y gwnaethoch werthu’r asedion amdano dros 4 gwaith yn fwy na’ch lwfans
- rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Mae rheolau gwahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled.
Os ydych yn ddibreswyl
Mae angen i chi roi gwybod i CThEF pan fyddwch yn gwerthu eiddo neu dir (yn agor tudalen Saesneg), hyd yn oed os yw’ch ennill o dan y lwfans rhydd o dreth neu os ydych yn gwneud colled. Nid yw pobl sy’n ddibreswyl yn talu treth ar enillion cyfalaf eraill.