Cadw cofnodion

Mae angen i chi gasglu cofnodion er mwyn cyfrifo’ch enillion a llenwi’ch Ffurflen Dreth. Mae’n rhaid i chi eu cadw am o leiaf blwyddyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad.

Bydd angen i chi gadw cofnodion yn hirach os ydych wedi anfon eich Ffurflen Dreth yn hwyr, neu os yw Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi dechrau gwiriad o’ch Ffurflen Dreth.

Mae’n rhaid i fusnesau gadw cofnodion am 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cau.

Cofnodion y bydd eu hangen arnoch

Cadwch dderbynebau, biliau ac anfonebau sy’n dangos y dyddiad a’r symiau canlynol:

  • faint a daloch am ased
  • swm unrhyw gostau ychwanegol fel ffioedd ar gyfer cyngor proffesiynol, Tollau Stamp, costau gwella, neu gostau pennu’r gwerth marchnadol
  • faint a gawsoch am yr ased – gan gynnwys pethau fel taliadau a gewch yn nes ymlaen fesul rhandaliad, neu iawndal os cafodd yr ased ei ddifrodi

Dylech hefyd gadw unrhyw gontractau mewn perthynas â phrynu a gwerthu’r ased (er enghraifft, oddi wrth gyfreithwyr neu froceriaid stoc), ynghyd â chopïau o unrhyw brisiadau.

Os nad oes gennych gofnodion

Mae’n rhaid i chi geisio ail-greu’ch cofnodion os na allwch eu hailosod ar ôl iddynt gael eu colli, eu dwyn neu eu dinistrio.

Os byddwch yn llenwi’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio cofnodion sydd wedi’u hail-greu, bydd angen i chi ddangos:

  • pan fo ffigurau wedi’u hamcangyfrif – eich bod am i CThEF eu derbyn fel ffigurau terfynol
  • pan fo ffigurau’n rhai dros dro – y byddwch yn eu diweddaru’n nes ymlaen gyda’r ffigurau gwirioneddol