Buddiolwyr - talu ac adennill treth ar ymddiriedolaethau

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth, mae yna reolau gwahanol yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth drwy Hunanasesiad neu mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ad-daliad treth.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, a bod angen i chi wneud hynny, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsoch yr incwm.

Darllenwch yr wybodaeth ar y gwahanol fathau o ymddiriedolaeth er mwyn deall y prif wahaniaethau rhyngddynt. Os nad ydych yn siŵr pa fath o ymddiriedolaeth sydd gennych, gofynnwch i’r ymddiriedolwyr.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag, chi sy’n gyfrifol am ddatgan a thalu treth ar ei hincwm. Gwnewch hyn ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, a bod angen i chi wneud hynny, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsoch yr incwm.

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Os mai chi yw buddiolwr y math hwn o ymddiriedolaeth, mae gennych hawl i’w hincwm (ar ôl treuliau) wrth iddo godi.

Os ydych yn gwneud cais am ddatganiad, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr roi gwybod i chi am y canlynol:

  • y gwahanol ffynonellau o incwm
  • faint o incwm rydych wedi ei gael
  • faint o dreth sydd wedi’i thalu ar yr incwm

Fel arfer, byddwch yn cael yr incwm drwy law yr ymddiriedolwyr, ond mae’n bosibl y byddant yn ei roi yn uniongyrchol i chi, heb dalu treth yn gyntaf. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n rhaid i chi ei gynnwys ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref y flwyddyn ar ôl i chi gael yr incwm.

Enghraifft

Cawsoch incwm o’r ymddiriedolaeth ym mis Awst 2023. Rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad cyn 5 Hydref 2024.

Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol

Ni fydd arnoch unrhyw dreth ychwanegol. Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad er mwyn dangos yr incwm yr ydych yn ei gael o ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant, ond byddwch yn cael credyd ar gyfer y dreth y mae’r ymddiriedolwyr yn ei thalu. Mae hyn yn golygu nad yw’r incwm yn cael ei drethu dwywaith.

Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch

Bydd yn rhaid i chi dalu treth ychwanegol ar y gwahaniaeth rhwng y dreth y mae’r ymddiriedolwyr wedi’i thalu a’r hyn yr ydych chi, fel trethdalwr cyfradd uwch, yn agored iddi. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo pan fyddwch yn gwneud eich Hunanasesiad.

Sut i adennill treth

Gallwch adennill y dreth a dalwyd ar y canlynol:

Bydd swm y lwfans yn cael ei ostwng os yw wedi cael ei ddefnyddio eisoes yn erbyn peth o’r incwm. Gelwir y lwfans sydd gennych dros ben yn ‘lwfans sydd ar gael’.

Os yw swm yr incwm yr ydych yn ei gael yn llai na’r lwfans sydd ar gael, neu’n gyfartal ag ef, gallwch adennill yr holl dreth a dalwyd.

Os yw swm yr incwm yr ydych yn ei gael yn fwy na’r lwfans sydd ar gael, gallwch ond hawlio’r dreth a dalwyd ar y lwfans sydd ar gael.

Os ydych yn drethdalwr Hunanasesiad bydd yr ad-daliad yn cael ei gyfrifo fel rhan o’ch Ffurflen Dreth.

Os nad ydych yn drethdalwr Hunanasesiad, gallwch adennill y dreth drwy ddefnyddio ffurflen R40.

Mae angen i chi wneud hawliad ar wahân ar gyfer pob blwyddyn dreth.

Ymddiriedolaethau cronnol neu amodol

Yn yr ymddiriedolaethau hyn, caiff yr holl incwm a gafwyd gan fuddiolwyr ei drin fel petai wedi ei drethu eisoes ar 45%. Os ydych yn drethdalwr cyfradd ychwanegol, ni fydd rhagor o dreth i’w thalu.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio treth yn ôl ar incwm yr ymddiriedolaeth yr ydych wedi ei gael os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn drethdalwr
  • rydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, sef 20%
  • rydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, sef 40%

Gallwch adennill y dreth sydd wedi’i thalu drwy ddefnyddio ffurflen R40. Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth, gallwch hawlio drwy Hunanasesiad.

Ymddiriedolaethau amodol pan fo buddiant gan setlwr

Os yw’r ymddiriedolaeth pan fo buddiant gan setlwr yn ymddiriedolaeth amodol, caiff taliadau a wnaed i briod neu bartner sifil y setlwr eu trin fel petaent wedi’u trethu eisoes ar 45%. Does dim rhagor o dreth i’w thalu. Fodd bynnag, yn wahanol i daliadau a wnaed o fathau eraill o ymddiriedolaethau, ni all y credyd treth gael ei hawlio’n ôl.

Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl

Dyma ymddiriedolaeth lle nad yw’r ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU at ddibenion treth. Mae’r rheolau treth ar gyfer y math hwn o ymddiriedolaeth yn gymhleth iawn - mae arweiniad manwl ar gael yn ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw cynllun pensiwn yn talu i mewn i ymddiriedolaeth

Pan fo cynllun pensiwn yn talu cyfandaliad trethadwym (yn agor tudalen Saesneg) i mewn i ymddiriedolaeth ar ôl i ddeiliad y pensiwn farw, trethir y taliad ar 45%.

Os ydych yn fuddiolwr sy’n cael taliad a ariannir gan y cyfandaliad hwn, byddwch chi’n cael eich trethu hefyd.

Gallwch hawlio’n ôl y dreth a dalwyd ar y cyfandaliad gwreiddiol - gwnewch hyn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn llenwi un, neu defnyddiwch ffurflen R40.

Bydd yr ymddiriedolaeth yn rhoi gwybod i chi beth yw’r swm sydd angen i roi gwybod amdano - fel arfer, bydd hwn yn fwy na’r swm rydych yn ei gael mewn gwirionedd.