Treth ar ddifidendau
Gwirio a oes angen i chi dalu treth ar ddifidendau
Efallai y cewch daliad difidend os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni.
Gallwch ennill rhywfaint o incwm o ddifidendau bob blwyddyn heb orfod talu treth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Sut rydym yn codi treth ar ddifidendau
Nid ydych yn talu treth ar unrhyw incwm o ddifidendau sydd o fewn eich Lwfans Personol (swm yr incwm y gallwch ei ennill bob blwyddyn heb orfod talu treth arno).
Cewch lwfans o ran difidendau bob blwyddyn hefyd. Dim ond unrhyw incwm o ddifidendau sydd dros y lwfans o ran difidendau y mae angen i chi dalu treth arno.
Nid ydych yn talu treth ar ddifidendau o gyfranddaliadau mewn ISA.
Lwfans o ran difidendau
Blwyddyn dreth | Lwfans o ran difidendau |
---|---|
6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025 | £500 |
6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 | £1,000 |
6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023 | £2,000 |
6 Ebrill 2021 i 5 Ebrill 2022 | £2,000 |
Cyfraddau treth ar ddifidendau
Mae faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar ddifidendau sydd dros y lwfans o ran difidendau’n dibynnu ar eich band Treth Incwm.
Band treth | Cyfradd dreth ar ddifidendau sydd dros y lwfans |
---|---|
Cyfradd sylfaenol | 8.75% |
Cyfradd uwch | 33.75% |
Cyfradd ychwanegol | 39.35% |
I gyfrifo’ch band treth, adiwch gyfanswm eich holl incwm o ddifidendau at eich incwm arall. Efallai y byddwch yn talu treth ar fwy nag un gyfradd.
Enghraifft
Yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025, rydych yn cael £3,000 o ddifidendau ac rydych yn ennill cyflog o £29,570.
Mae hyn yn rhoi cyfanswm o £32,570 o incwm i chi.
Mae gennych Lwfans Personol o £12,570. Tynnwch y ffigur hwn oddi wrth gyfanswm eich incwm i adael yr incwm trethadwy, sef £20,000.
Dyma’r band treth ar y gyfradd sylfaenol, felly byddech yn talu:
-
treth o 20% ar gyflog o £17,000
-
dim treth ar £500 o ddifidendau, oherwydd y lwfans o ran difidendau
-
treth o 8.75% ar £2,500 o ddifidendau
Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF
Os oes gennych daliadau difidend sydd dros eich Lwfans Personol a’ch lwfans o ran difidendau sydd heb eu defnyddio, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am y rhain.