Ffurflenni Treth ar gyfer rhywun sydd wedi marw

Os mai chi yw’r ‘cynrychiolydd personol’ (ysgutor neu weinyddwr) ar gyfer rhywun sydd wedi marw, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi:

  • Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer incwm roedd y person wedi’i ennill cyn iddo farw
  • Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar wahân ar gyfer incwm yr ystâd a gynhyrchir ar ôl i’r person farw

Mae cynrychiolydd personol yn gyfrifol yn gyfreithiol am ddelio ag arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig (ei ‘ystâd’).

Os nad ydych eisoes wedi rhoi gwybod i CThEF am farwolaeth, mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl. Defnyddiwch y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith i roi gwybod i CThEF a sefydliadau eraill y llywodraeth am y farwolaeth.

Ffurflen Dreth ar gyfer incwm roedd y person wedi’i ennill cyn iddo farw

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ran yr ymadawedig. Os byddwch yn gwneud hynny, bydd yn anfon Ffurflen Dreth i’w llenwi a’i dychwelyd.

Fel arfer, bydd angen manylion cyfrifon banc a chynilion yr ymadawedig arnoch – mae’r canlynol yn enghreifftiau:

  • cyfriflenni banc
  • paslyfrau cymdeithas adeiladu
  • talebau difidend
  • bondiau neu dystysgrifau Cynilion Cenedlaethol

Os oedd yr ymadawedig yn gyflogedig, fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:

  • P45 gan ei gyflogwr - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth y bu farw
  • P60 gan ei gyflogwr - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth cyn y flwyddyn dreth y bu farw
  • manylion unrhyw dreuliau a dalwyd gan y cyflogwr - er enghraifft ceir cwmni, yswiriant iechyd, treuliau teithio neu ofal plant

Os oedd yr ymadawedig yn cael pensiwn, fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:

  • datganiad terfynol gan ei ddarparwr pensiwn - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth y bu farw
  • tystysgrif diwedd blwyddyn gan ei ddarparwr pensiwn - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth cyn y flwyddyn dreth y bu farw
  • cadarnhad ynghylch unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth

Bydd hefyd angen manylion arnoch o unrhyw incwm arall a oedd gan yr ymadawedig, er enghraifft os oedd yr ymadawedig yn gosod eiddo neu’n rhedeg ei fusnes ei hun.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch i lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer rhywun sydd wedi marw, neu os na allwch ddod o hyd i’w gofnodion.

Anfon y Ffurflen Dreth

Anfonwch y Ffurflen Dreth Hunanasesiad wedi’i llenwi drwy’r post.

Mae’n rhaid i’r Ffurflen Dreth gyrraedd CThEF erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr a gawsoch ynghyd â’r ffurflen.

Gallwch gyflogi gweithiwr proffesiynol (fel cyfrifydd) i’ch helpu i gyflwyno Ffurflen Dreth ar ran yr ymadawedig.

Ffurflenni Treth ar gyfer incwm yr ystâd a gynhyrchir ar ôl i’r person farw

Os yw’r ystâd yn cynhyrchu unrhyw incwm newydd ar ôl y farwolaeth (yn agor tudalen Saesneg), mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud y ddau beth canlynol:

  • cofrestru gyda CThEF
  • anfon Ffurflen Dreth ar wahân ar ran yr ystâd

Mae’n rhaid gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am incwm yr ystâd (yn agor tudalen Saesneg).