Trosolwg

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel os oes gennych chi neu’ch partner incwm unigol sydd dros y trothwy a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • rydych chi neu’ch partner yn cael Budd-dal Plant

  • mae rhywun arall yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sy’n byw gyda chi, ac mae’r person hwnnw’n cyfrannu swm sydd o leiaf yn gyfartal â’r swm rydych chi’n ei dalu tuag at gostau cynnal y plentyn

Does dim ots os nad eich plentyn eich hun yw’r plentyn sy’n byw gyda chi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Y trothwy

Mae incwm unigol dros y trothwy os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r incwm dros £60,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025

  • mae’r incwm dros £50,000 ar gyfer blynyddoedd treth hyd at a chan gynnwys 2023 i 2024

Yr hyn sy’n cyfrif fel incwm

I weld a yw’ch incwm dros y trothwy, bydd yn rhaid i chi gyfrifo’ch ‘incwm net wedi’i addasu’.

Eich incwm net wedi’i addasu yw cyfanswm eich incwm trethadwy cyn unrhyw lwfansau, ac nid yw’n cynnwys pethau megis Rhodd Cymorth. Mae cyfanswm eich incwm trethadwy yn cynnwys llog o gynilion a difidendau.

Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i gael amcangyfrif o’ch incwm net wedi’i addasu.

Pwy sy’n talu’r tâl treth

Os yw’r incwm net wedi’i addasu ar eich cyfer chi a’ch partner hefyd dros y trothwy, yna’r person sydd â’r incwm uwch sy’n gyfrifol am dalu’r tâl treth.

Mae ‘partner’ yn golygu rhywun nad ydych wedi gwahanu oddi wrtho’n barhaol – rhywun yr ydych yn briod ag ef, mewn partneriaeth sifil ag ef, neu’n byw gydag ef fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os yw’ch incwm dros y trothwy

Gallwch ddewis naill ai:

  • cael taliadau Budd-dal Plant a thalu unrhyw dâl treth ar ddiwedd pob blwyddyn dreth
  • optio allan o gael taliadau a thrwy hynny beidio â thalu’r tâl treth

Os byddwch yn dewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant

Dylech lenwi’r ffurflen hawlio Budd-dal Plant o hyd. Mae angen i chi ddatgan ar y ffurflen nad ydych yn dymuno cael taliadau.

Mae angen i chi lenwi’r ffurflen hawlio os ydych yn dymuno:

Os ydych eisoes yn cael taliadau Budd-dal Plant

Gallwch ddewis i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol: