Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Os yw’ch amgylchiadau’n newid
Newid yn eich incwm
Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl treth os yw’ch incwm net addasedig unigol chi, neu incwm net addasedig unigol eich partner, yn llai na £60,000 am y flwyddyn dreth gyfan.
Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif y newidiadau yn eich incwm net addasedig ac i weld os byddan nhw’n effeithio ar y tâl treth.
Gallwch ddewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, neu eu hailddechrau, ar unrhyw adeg.
Os yw’ch incwm net addasedig yn disgyn o dan y trothwy, sef £60,000, a does dim angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad bellach, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF.
Mae gennych blentyn newydd
Mae hawlio Budd-dal Plant yn eich helpu i fod yn gymwys i gael y canlynol:
- credydau Yswiriant Gwladol, sy’n diogelu’ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth
- budd-daliadau eraill, megis Lwfans Gwarcheidwad
Mae Budd-dal Plant yn profi eich bod chi (neu’ch partner) yn rhoi cymorth i blentyn arall. Efallai y byddwch yn talu llai o gynhaliaeth plant ar gyfer plant nad ydynt yn byw gyda chi.
Gallwch wneud hawliad newydd neu ddiogelu’ch hawl i’r uchod drwy wneud y canlynol:
- anfon ffurflen hawlio Budd-dal Plant
- ticio’r opsiwn i beidio â chael y budd-dal wedi’i dalu
Mae partner yn symud i mewn neu allan
Efallai y bydd eich sefyllfa’n newid os yw’ch incwm net addasedig dros £60,000 ac rydych yn symud i fyw gyda rhywun, neu’n gwahanu oddi wrth rywun sy’n cael Budd-dal Plant.
Bydd yn rhaid i chi dalu’r tâl treth os yw’ch incwm net addasedig dros £60,000 ac yn uwch nag incwm net addasedig eich partner newydd. Bydd eich partner yn ei dalu os yw ei incwm net addasedig yn uwch na’ch un chi.
Mae’r tâl treth yn gymwys o’r dyddiad yr ydych yn symud i mewn gyda’ch gilydd hyd nes y dyddiad yr ydych yn gwahanu’n barhaol, neu’r dyddiad y mae’r taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben – er enghraifft gan fod y plentyn yn rhy hen i fod yn gymwys ar gyfer Budd-dal Plant.
Nid yw cyfnodau byr ar wahân, megis aros yn yr ysbyty neu weithio oddi cartref, yn cyfrif fel gwahanu.