Budd-dal Plant
Gwneud hawliad
Gallwch hawlio Budd-dal Plant 48 awr ar ôl i chi gofrestru genedigaeth eich plentyn, neu unwaith y daw plentyn i fyw gyda chi.
Gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant am hyd at 3 mis.
Os ydych yn gwneud hawliad newydd ar gyfer plentyn sydd dros 16 oed, gwiriwch ei fod yn gymwys.
Penderfynu pwy ddylai hawlio
Dim ond un person all gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn, felly bydd angen i chi benderfynu a yw’n well i chi neu’r rhiant arall hawlio.
Bydd y person sy’n hawlio yn cael credydau Yswiriant Gwladol tuag at ei bensiwn y Wladwriaeth. Gall y credydau lenwi bylchau yn eich cofnod os nad ydych yn gweithio neu os nad ydych yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Gallwch chi a’ch partner hawlio ar gyfer gwahanol blant. Os ydych yn byw gyda’ch gilydd, dim ond un ohonoch sy’n gallu hawlio’r gyfradd uchaf ar gyfer plentyn hynaf yr aelwyd. Os yw’r ddau ohonoch yn hawlio’r gyfradd uwch, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu rhan o’r arian yn ôl.
Gwneud hawliad ar-lein
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud hawliad am Fudd-dal Plant neu i ychwanegu plentyn arall i hawliad sy’n bodoli eisoes.
Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu rhagor ynghylch sut i hawlio Budd-dal Plant ar-lein.
Fideo YouTube: ‘How to claim Child Benefit online’.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
tystysgrif geni neu fabwysiadu eich plentyn
-
eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu
-
eich rhif Yswiriant Gwladol
-
rhif Yswiriant Gwladol eich partner (os oes partner gennych)
Gallwch archebu tystysgrif geni neu fabwysiadu newydd (yn agor tudalen Saesneg) os ydych wedi colli’r gwreiddiol.
Os cofrestrwyd genedigaeth eich plentyn y tu allan i’r DU
Bydd angen i chi anfon:
-
tystysgrif geni neu fabwysiadu gwreiddiol eich plentyn
-
pasbort eich plentyn, neu’r dogfennau teithio a ddefnyddiodd i ddod i mewn i’r DU
Fel arfer, bydd unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu hanfon yn cael eu dychwelyd cyn pen 4 wythnos.
Os nad oes gennych y dystysgrif sydd ei hangen arnoch, gwnewch hawliad nawr ac anfonwch y dystysgrif pan fydd yn eich meddiant.
Dulliau eraill o hawlio
Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch hawlio:
Hawlio Budd-dal Plant ar ran rhywun arall
Efallai y gallwch reoli hawliad Budd-dal Plant rhywun arall.