Budd-dal Plant
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Mae 2 gyfradd Budd-dal Plant.
Ar gyfer pwy mae’r lwfans | Cyfradd (wythnosol) |
---|---|
Y plentyn hynaf neu unig blentyn | £25.60 |
Plant ychwanegol | £16.95 y plentyn |
Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd gormod o Fudd-dal Plant yn cael ei dalu i chi neu os na fydd digon ohono’n cael ei dalu i chi.
Bydd unrhyw daliadau Budd-dal Plant a gewch yn cyfrif tuag at y cap budd-daliadau. Os yw’r cap yn effeithio arnoch chi, byddwch yn dal i gael swm llawn eich taliadau Budd-dal Plant, ond efallai y caiff eich budd-daliadau eraill eu gostwng.
Os bydd teuluoedd yn gwahanu
Os bydd teulu’n gwahanu, cewch £25.60 yr wythnos ar gyfer y plentyn hynaf.
Os oes gennych 2 o blant a bod un yn aros gyda chi a’r llall yn byw gyda rhywun arall (er enghraifft, eich cyn-bartner), bydd y ddau ohonoch yn cael £25.60 yr wythnos yr un.
Os yw’r ddau ohonoch yn hawlio ar gyfer yr un plentyn, dim ond un ohonoch fydd yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer.
Os oes hawl gennych i Fudd-dal Plant ar gyfer unrhyw blant eraill, cewch y gyfradd £16.95 ar gyfer pob un ohonynt.
Os bydd teuluoedd yn dod at ei gilydd
Os byddwch yn symud i fyw gyda phartner sydd hefyd yn hawlio Budd-dal Plant, byddwch yn cael £25.60 ar gyfer plentyn hynaf yr aelwyd. Cewch £16.95 ar gyfer unrhyw blant iau.
Gallwch chi a’ch partner hawlio ar gyfer gwahanol blant. Os ydych yn byw gyda’ch gilydd, ni all y ddau ohonoch hawlio ar y gyfradd uwch – mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu rhan o’r arian yn ôl os byddwch yn gwneud hynny.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau teuluol.
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £60,000
Os yw’ch ‘incwm net addasedig’ chi neu’ch partner dros £60,000 y flwyddyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Eich incwm net addasedig yw cyfanswm eich incwm trethadwy cyn unrhyw lwfansau personol a llai pethau megis Rhodd Cymorth. Mae cyfanswm eich incwm trethadwy yn cynnwys llog o gynilion a difidendau.
Os oes rhaid i chi dalu’r tâl, rydych yn dal i allu cael y manteision eraill o Fudd-dal Plant megis credydau Yswiriant Gwladol. Ni fydd y tâl yn fwy na’r swm a gewch o’r taliadau Budd-dal Plant.
Cyfrifwch a yw’ch incwm net addasedig dros £60,000 gan ddefnyddio’r gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg). Os ydyw, bydd y gyfrifiannell hefyd yn dweud wrthych faint o dâl y bydd angen i chi ei dalu.
Os oes gennych chi a’ch partner incwm unigol dros £60,000, yna bydd y sawl sydd â’r incwm net addasedig uchaf yn gyfrifol am dalu’r tâl.
Os oes gennych chi neu’ch partner incwm unigol o £80,000 neu fwy, codir yr un swm ag y byddwch yn ei wneud drwy daliadau Budd-dal Plant. Yn y pen draw, ni fydd gennych unrhyw arian ychwanegol o Fudd-dal Plant.
Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad bob blwyddyn dreth i dalu’r tâl.
Gallwch wneud hawliad ac optio allan o gael taliadau os nad ydych yn dymuno talu’r tâl. Byddwch yn dal i allu cael y manteision eraill a ddarperir gan Fudd-dal Plant, megis credydau Yswiriant Gwladol.