Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall

Sgipio cynnwys

Os bydd eich plentyn yn cael babi

Gallwch hawlio Budd-dal Plant ar gyfer plentyn rydych yn gyfrifol amdano a’i fabi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os yw’ch plentyn yn hawlio’r Budd-dal Plant, gallwch gasglu’r taliad ar ei ran drwy siarad â’u banc.

Dim ond i un cyfrif gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant. Gall hyn fod yn gyfrif ar y cyd rydych yn ei rannu gyda’ch plentyn, ond mae’n rhaid i’w enw fod ar y cyfrif hefyd.