Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall

Sgipio cynnwys

Awdurdodiad

Bydd y Llinell Gymorth Budd-dal Plant dim ond yn gallu trafod hawliad â’r person a enwir ar y ffurflen hawlio (neu un sy’n benodai iddynt) Gall partner neu rywun arall gael cyngor cyffredinol ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u ‘hawdurdodi’ i drafod hawliad gyda’r llinell gymorth.

Mae’r broses yn wahanol os ydych yn gweithredu ar ran nifer o gleientiaid neu os ydych yn asiant taledig.

Cael awdurdodiad

Mae’n rhaid i’r hawliwr lenwi ffurflen TC689, neu ysgrifennu llythyr â’r un wybodaeth, a’i anfon at y Swyddfa Credydau treth – mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Mae’r awdurdodiad yn para 12 mis oni bai bod dyddiad cau gwahanol yn cael ei nodi ar y ffurflen. Fel arfer mae’n cymryd 2 ddiwrnod i gael awdurdodiad o’r dyddiad y daw’r ffurflen i law. Fel arfer, ni fyddwch yn cael llythyr yn cadarnhau’r awdurdodiad.

Bydd hefyd angen bod ffurflen hawlio Budd-dal Plant yr hawliwr wedi cyrraedd y Swyddfa Budd-dal Plant.

Gellir awdurdodi mwy nag un person ond mae’n rhaid i bob un ohonynt gyflwyno ffurflen TC689.

Os ydych yn gweithredu ar ran nifer o gleientiaid

Ysgrifennwch at Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gofrestru fel ‘sefydliad sy’n gweithredu fel cyfryngwr’ os ydych yn gweithio yn y sector wirfoddol ac yn gweithredu ar ran nifer o bobl.

Gallwch gael awdurdodiad brys ar-lein (yn Saesneg) os ydych yn sefydliad sy’n gweithredu fel cyfryngwr a’ch bod wedi cwblhau ffurflen TC689. Mae’n rhaid i chi gadw ffurflen TC689 eich cleient wedi’i chwblhau am 7 mlynedd o’r dyddiad y cafodd ei harwyddo.

Os ydych yn asiant treth

Mae’n rhaid i’ch cleient anfon llythyr at y Swyddfa Budd-dal Plant, yn rhoi gwybod eich bod yn gallu ymdrin â Budd-dal Plant ar ei ran.

Fel y gallwch gael eich awdurdodi i ymdrin â materion Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel bydd hefyd rhaid iddynt lenwi ffurflen CH995.

Canslo awdurdodiad

Gellir canslo awdurdodiad drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant.