Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall
Penodedigion
Gallwch wneud cais am yr hawl i ymdrin â Budd-dal Plant rhywun na all reoli ei faterion ei hun, er enghraifft os nad ydynt yn meddu ar alluedd meddyliol neu’n ddifrifol anabl.
Yr enw ar hyn yw dod yn ‘benodai’.
Gallwch wneud cais fel unigolyn neu fel sefydliad gwirfoddol.
Os ydych yn cael tâl am ymdrin â Budd-dal Plant rhywun arall, rydych yn cael eich adnabod fel ‘asiant taledig’.
Nid ydych yn benodai os ydych dim ond yn helpu rhywun i gwblhau ei ffurflen hawlio.
Sut i ddod yn benodai
Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant i wneud cais. Byddant yn trafod os mai dod yn benodai yw’r opsiwn gorau a rhoi gwybod beth sy’n rhaid i chi ei wneud.
Gallwch drefnu gyda banc person arall neu’r Swyddfa Bost i gasglu ei daliadau heb ddod yn benodai.
Eich cyfrifoldebau
Fel penodai, dylech wneud pethau fel y canlynol:
- cwblhau’r ffurflen hawlio
- ymdrin ag unrhyw lythyrau o’r Swyddfa Budd-dal Plant
- rhoi gwybod am unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar y Budd-dal Plant
- stopio neu ailgychwyn taliadau lle bydd y person neu ei bartner yn cael eu heffeithio gan y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Bydd y Budd-dal Plant yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc.
Sut i ddod yn asiant taledig
Mae’n rhaid i’ch cleient anfon llythyr at y Swyddfa Budd-dal Plant, yn rhoi gwybod eich bod yn gallu ymdrin â Budd-dal Plant ar ei ran.
Stopio neu newid penodai neu asiant taledig
Ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant cyn pen mis o’r dyddiad yr ydych am stopio neu newid y penodai.