Talu’n wythnosol neu’n fisol

Gallwch drefnu cynllun Talu Cyllidebol i wneud taliadau Debyd Uniongyrchol yn wythnosol neu’n fisol er mwyn talu’ch bil treth Hunanasesiad nesaf.

Bydd eich taliadau yn cael eu defnyddio yn erbyn eich bil treth nesaf – mae hyn yn golygu y bydd gennych lai i’w dalu erbyn y dyddiad cau ar gyfer talu

Trefnu’ch Cynllun Talu Cyllidebol 

Cyn bod modd i chi drefnu cynllun, mae’n rhaid i’r taliadau o’ch bil treth Hunanasesiad diweddaraf fod yn gyfredol.

Mae taliadau Hunanasesiad yn ddyledus erbyn y dyddiadau canlynol:

  • 31 Ionawr – ar gyfer y dreth sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol (a elwir yn daliad mantoli), a’ch taliad ar gyfrif cyntaf

  • 31 Gorffennaf – ar gyfer eich ail daliad ar gyfrif

Os yw’ch taliadau’n gyfredol

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein.

  2. Dewiswch ‘Debyd Uniongyrchol’ ac ewch i’r opsiwn Cynllun Talu Cyllidebol.

  3. Penderfynwch a ydych am wneud taliadau’n wythnosol neu’n fisol a faint rydych am ei dalu.

Gallwch amcangyfrif beth fydd eich bil treth Hunanasesiad i’ch helpu i benderfynu faint i’w dalu.

Os nad yw’r swm yr ydych wedi’i dalu yn ddigon i dalu swm cyfan eich bil nesaf, bydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth. Os oes gennych gredyd, gallwch ofyn am ad-daliad.

Gallwch oedi taliadau am hyd at 6 mis os oes angen.

Os na allwch dalu’ch bil treth

Os ydych wedi methu’ch dyddiad cau ar gyfer talu Hunanasesiad neu os na allwch dalu’r swm sy’n ddyledus gennych, efallai y byddwch yn gallu trefnu cynllun talu (a elwir hefyd yn drefniant ‘Amser i Dalu’).

Gwirio pa gynllun talu sy’n iawn i chi

Defnyddiwch yr offeryn hwn i wirio a allwch drefnu taliadau rheolaidd tuag at eich bil treth Hunanasesiad.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch i greu cynllun talu 

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, pan fyddwch yn trefnu Debyd Uniongyrchol newydd. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.

Bydd hwn naill ai: