Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:

  • drwy’ch cyfrif banc ar-lein 
  • gan ffonio’ch banc

Gallwch wneud mwy nag un taliad tuag at eich bil cyn y dyddiad dyledus.

Talu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs

Bydd eich bil yn rhoi gwybod i chi pa gyfrif banc i dalu i mewn iddo. Os nad oes gennych fil, neu os nad ydych yn siŵr, gallwch dalu i mewn i’r naill gyfrif neu’r llall.

Manylion y cyfrif i’w defnyddio 

Talwch i mewn i un o’r cyfrifon canlynol:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001039 
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

  • cod didoli - 08 32 10 
  • rhif y cyfrif - 12001020 
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Os yw’ch cyfrif dramor

Talwch i mewn i un o’r cyfrifon canlynol:

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB62 BARC 2011 4770 2976 90
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Bydd rhai banciau yn codi tâl arnoch os nad ydych yn talu mewn punnoedd sterling.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.

Bydd hwn i’w weld naill ai:

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gall taliadau o dramor gymryd mwy o amser – holwch eich banc.

Taliadau lluosog drwy gyfrwng CHAPS

Anfonwch ffurflen CHAPS ar-lein os hoffech wneud taliad CHAPS unigol i dalu mwy nag un bil Hunanasesiad gan ddefnyddio mwy nag un cyfeirnod talu.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP