Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

CThEF/HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF. Gallwch wneud mwy nag un taliad tuag at eich bil cyn y dyddiad dyledus.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd hwn ar eich slip talu.

Dylech gynnwys y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF (os ydych yn dal i gael datganiadau papur). Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.  

Gall eich taliad gael ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn i CThEF am dderbynneb.

Os nad oes gennych slip cyflog CThEF

Gallwch argraffu slip (yn agor tudalen Saesneg) i’w ddefnyddio i dalu drwy’r post. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.