Treth ar log ar gynilion
Blynyddoedd treth blaenorol
Os ydych yn hunangyflogedig a bod angen i chi ddatgan llog ar gynilion o flwyddyn dreth flaenorol, bydd angen i chi roi gwybod amdano mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Mae CThEF yn tynnu treth oddi ar unrhyw log ar gynilion sydd arnoch yn awtomatig, os ydych yn gyflogedig neu’n cael pensiwn.
Adennill treth o flynyddoedd blaenorol
Gallwch adennill treth a dalwyd ar eich llog ar gynilion os oedd eich incwm yn nai na’ch Lwfans Personol. Mae’n rhaid i chi adennill eich treth o fewn 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth berthnasol.
Sut i hawlio
Gallwch hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn llenwi un. Os na, llenwch ffurflen R40 a’i hanfon at CThEF. Fel arfer, mae’n cymryd 6 wythnos i gael y dreth yn ôl.
Cael help
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen cymorth a chyngor arnoch.