Diweddaru cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw
Mae’r ffordd rydych yn diweddaru’r cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw yn dibynnu a oedd yr unigolyn yn gydberchennog neu’n unig berchennog eiddo.
Ceir ffordd wahanol i ddiweddaru cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw yn yr Alban ac i ddiweddaru cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Edrychwch ar y cofnodion eiddo os nad ydych yn gwybod:
- pwy sy’n berchen ar eiddo
- a yw’n cael ei berchen ar y cyd neu’n unigol
Pan fydd cydberchennog yn marw
Pan fydd cydberchennog eiddo yn marw, llenwch ffurflen DJP i dynnu ei enw o’r gofrestr.
Anfonwch y ffurflen wedi ei llenwi, ynghyd â chopi swyddogol o’r dystysgrif marwolaeth, i Gofrestrfa Tir EF.
Pan fydd unig berchennog yn marw
Pan fydd unig berchennog eiddo wedi marw, caiff yr eiddo ei drosglwyddo fel arfer i naill ai:
- y person sy’n etifeddu’r eiddo (a elwir ‘y buddiolwr’)
- trydydd parti, er enghraifft rhywun sy’n prynu’r eiddo
Bydd angen tystiolaeth ychwanegol:
- os yw’r grant wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd, gall hyn fod os yw’r ysgutor a enwir yn blentyn o dan oed
- os yw’r cynrychiolydd personol wedi marw, neu wedi penodi atwrnai i weinyddu’r ystad ar ei ran
Os ydych yn trosglwyddo i fuddiolwr
Er mwyn trosglwyddo eiddo i fuddiolwr, lawrlwythwch a llenwch y ffurflenni canlynol:
- ‘Newid y gofrestr’ (a elwir weithiau’n ffurflen AP1)
- ‘Teitl cofrestredig cyfan: cydsynio’ (a elwir weithiau’n ffurflen AS1)
Rhaid ichi hefyd anfon:
- y gwreiddiol neu gopi swyddogol o’r grant profiant neu lythyrau gweinyddu a gyhoeddwyd yn y DU
- y dystysgrif Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif hunan-dystysgrif, neu Dystysgrif Treth Trafodiadau Tir os gwerthwyd yr eiddo yng Nghymru ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018 (os talwyd treth ar yr eiddo)
- ffi – edrychwch ar y cyfrifiannell ffïoedd
Llenwch ‘Cadarnhau hunaniaeth: dinesydd’ (a elwir weithiau’n ffurflen ID1). Rhaid i’r buddiolwr lenwi’r ffurflen hon hefyd.
Anfonwch yr holl ffurflenni wedi eu llenwi a’r dogfennau ategol i Gofrestrfa Tir EF.
Os ydych yn gwerthu’r eiddo i drydydd parti
Rhaid ichi:
- drosglwyddo perchnogaeth yr eiddo
- rhoi copi swyddogol o’r grant profiant neu lythyrau gweinyddu a gyhoeddwyd yn y DU i’r prynwr
Rhaid ichi hefyd anfon:
- y gwreiddiol neu gopi swyddogol o’r grant profiant (a gyhoeddwyd yn y DU) neu lythyrau gweinyddu
- y dystysgrif Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif hunan-dystysgrif, neu Dystysgrif Treth Trafodiadau Tir os gwerthwyd yr eiddo yng Nghymru ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, os talwyd treth ar yr eiddo
- ffi – edrychwch ar y cyfrifiannell ffïoedd
Os oes gennych grant profiant tramor
Os ydych am ddiweddaru cofnodion eiddo a chael grant profiant neu rywbeth cyfwerth a gyhoeddwyd y tu allan i’r DU, bydd angen ichi wneud un o’r canlynol:
-
cael grant profiant tramor wedi ei ‘ailselio’ – darllen rhagor am ail-selio