Dod â nwyddau i mewn i’r DU at ddefnydd personol
Trosolwg
Gallwch ddod â rhai nwyddau o dramor heb orfod talu treth neu doll yn y DU arnynt, os yw’r nwyddau naill ai:
- at eich defnydd eich hun
- yn nwyddau rydych am eu rhoi fel rhodd
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Yn aml, cyfeirir at faint o nwyddau y gallwch ddod â nhw i mewn fel eich ‘lwfans personol’. Mae’r rheolau lwfans personol yn berthnasol i unrhyw nwyddau rydych wedi eu prynu dramor ac yn dod â nhw i mewn i’r DU.
Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i nwyddau, waeth ble y gwnaethoch eu prynu. Gallai hyn gynnwys:
- siop ddi-doll neu siop ddi-dreth
- ar y stryd fawr yn y wlad rydych wedi ymweld â hi
Mae’n rhaid i chi ddatgan pob un o’r nwyddau masnachol (yn agor tudalen Saesneg). Nid oes lwfansau personol ar nwyddau rydych yn dod â nhw i mewn er mwyn eu gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes.
Mae faint o nwyddau y gallwch ddod â nhw i mewn heb dalu treth neu doll arnynt yn dibynnu ar y canlynol:
- o ble rydych yn teithio
- os ydych yn cyrraedd Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)
- os ydych yn cyrraedd Gogledd Iwerddon
Datgan nwyddau wrth y tollau
Cyn croesi ffin y DU, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r tollau (‘datgan’) am unrhyw nwyddau:
- sydd dros eich lwfansau
- sydd wedi’u gwahardd neu o dan gyfyngiadau
Os ewch dros lwfans, bydd yn rhaid i chi dalu treth a tholl ar yr holl nwyddau yn y categori hwnnw.
Gallwch ddatgan nwyddau ar-lein unrhyw bryd o 5 diwrnod (120 awr) cyn i chi ddisgwyl cyrraedd y DU.
Mae’n bosibl y bydd eich nwyddau ac unrhyw gerbyd a ddefnyddiwch i’w cludo yn cael eu hatafaelu (yn agor tudalen Saesneg) os byddwch yn torri’r rheolau. Mae’n bosibl y byddwch yn cael dirwy a’ch erlyn.
Gallwch roi gwybod am rywun sy’n torri’r rheolau (yn agor tudalen Saesneg) i Gyllid a Thollau EF (CThEF).