Dod â nwyddau i mewn i’r DU at ddefnydd personol
Pryd i ddatgan nwyddau i dollau’r DU
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth (‘datgan’) y tollau am nwyddau:
- os ewch dros eich lwfansau personol ar gyfer Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) neu ar gyfer Gogledd Iwerddon
- sydd wedi’u gwahardd neu o dan gyfyngiadau
- rydych yn bwriadu eu gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’n rhaid i chi ddatgan nwyddau os ydych yn pasio drwy reolaethau wrth y ffin y DU pan fyddwch yn teithio drwy faes awyr yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) ar y ffordd i wlad arall.
Gallwch ddatgan nwyddau ar-lein unrhyw bryd o 5 diwrnod (120 awr) cyn i chi ddisgwyl cyrraedd y DU.
Gallwch gyfrifo a thalu unrhyw dreth a tholl sydd arnoch pan fyddwch yn datgan eich nwyddau. Mae’r doll dramor a’r doll ecséis rydych yn eu talu ar-lein yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfraddau symlach (yn agor tudalen Saesneg).
Gwiriwch y rheolau ar ddod ag arian parod i mewn i’r DU (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn dod â mwy na £10,000 (neu gyfwerth mewn unrhyw arian cyfred) i mewn.
Datgan nwyddau wrth y ffin
Gallwch ddatgan nwyddau gan ddefnyddio’r sianel goch neu’r ffôn pwynt coch pan fyddwch yn cyrraedd y DU os, er enghraifft:
- nid ydych wedi gallu eu datgan ar-lein neu rydych yn cario mwy na faint o alcohol neu dybaco y gallwch ei ddatgan at eich defnydd eich hun - darllenwch adran trothwyon uchaf y canllawiau cyfraddau Symlach (yn agor tudalen Saesneg)
- nid ydych am dalu’r cyfraddau symlach a ddefnyddir gan y gwasanaeth ar-lein
- rydych yn cario nwyddau i’w gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes (yn agor tudalen Saesneg)
Gallwch chi a’ch bagiau gael eu gwirio (yn agor tudalen Saesneg) am unrhyw beth y mae’n rhaid ei ddatgan.
Efallai y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- talu treth neu doll
- ildio nwyddau wedi’u gwahardd
- dangos dogfennau am nwyddau o dan gyfyngiadau, er enghraifft trwyddedau a hawlenni
Os na wnewch yr hyn a ofynnir i chi, gall eich nwyddau ac unrhyw gerbyd a ddefnyddiwch i’w cludo gael eu hatafaelu (yn agor tudalen Saesneg).