Dod yn unig fasnachwr

Skip contents

Cofrestru fel unig fasnachwr

Mae’n rhaid i chi gofrestru fel unig fasnachwr os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn ennill dros £1,000 yn ystod blwyddyn dreth (o 6 Ebrill i 5 Ebrill)
  • mae angen i chi brofi eich bod yn hunangyflogedig, er enghraifft i hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
  • rydych am wneud taliadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol i’ch helpu i fod yn gymwys am fudd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn cofrestru’n hwyr, neu os na fyddwch yn cofrestru, mae’n bosibl y gallech gael cosb.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Sut i gofrestru

Cofrestrwch fel unig fasnachwr drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad am reswm arall, bydd angen i chi gofrestru eto.

Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad fel unig fasnachwr.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch er mwyn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad oes gennych un.

Darllenwch ragor am yr hyn y mae’r term ‘unig fasnachwr’ yn ei olygu.