Dod yn unig fasnachwr

Sgipio cynnwys

Beth yw unig fasnachwr

Mae unig fasnachwr yn fath o fusnes. Dyma’r strwythur busnes symlaf i’w sefydlu a chadw cofnodion ar ei gyfer.

Fel unig fasnachwr byddwch:

  • yn gweithio i chi’ch hun
  • yn cael eich ystyried yn hunangyflogedig
  • yn gwneud yr holl benderfyniadau busnes

Gallwch fod yn unig fasnachwr fel eich unig swydd, neu fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd.

Mae’r mwyafrif o bobl yn sefydlu fel unig fasnachwr wrth gychwyn fel busnes am y tro cyntaf.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyfrifoldebau unig fasnachwr

Bydd gennych rai cyfrifoldebau cyfreithiol, ariannol, a chyfrifoldebau eraill wrth redeg busnes unig fasnachwr.

Risgiau cyfreithiol neu ‘rwymedigaeth’

Mae gan fusnesau unig fasnachwr rwymedigaeth ddiderfyn, sy’n golygu bod y perchnogion yn gyfrifol yn bersonol am holl ddyledion y busnes. Bydd gennych lai o ddiogelwch os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Efallai y bydd modd i chi gael mwy o ddiogelwch gydag yswiriant busnes.

Cyllid

Chi fydd yn cadw’r holl elw ar ôl talu treth.

Enwi’ch busnes

Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio i chi’ch hun dylech ddewis enw’ch busnes – gallwch ddewis enw masnachu neu ddefnyddio eich enw eich hun.

Cadw cofnodion a chyfrifon

Pan fyddwch yn dechrau masnachu, bydd rhaid i chi gadw cofnodion. Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo eich elw neu golled ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Cofrestru fel unig fasnachwr

Gallwch ddechrau masnachu ar unwaith heb gofrestru. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad fel unig fasnachwr os ydych yn ennill dros £1,000 yn ystod blwyddyn dreth (o 6 Ebrill i 5 Ebrill). Gallwch ddewis cofrestru yn gynharach.

Ar ôl i chi gofrestru bydd angen i chi gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad.

Trethi

Pan fyddwch yn cyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo a oes angen i chi dalu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ddibynnol ar eich elw.

Os ydych yn bodloni’r gofynion, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW. Gallwch ddewis cofrestru cyn eich bod yn bodloni’r gofynion os ydych eisiau adennill TAW ar dreuliau busnes.

Yn ddibynnol ar yr hyn yr ydych yn ei wneud, mae’n bosibl y bydd trethi eraill y bydd angen i chi gofrestru ar eu cyfer. Gwiriwch pa drethi all fod yn berthnasol i chi fel unig fasnachwr.

Dysgwch am ryddhadau treth ar gyfer unig fasnachwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn lleihau eich bil treth.

Rheolau ar gyfer eich math o fusnes

Efallai bod gennych gyfrifoldebau eraill yn ddibynnol ar yr hyn y mae eich busnes yn ei wneud.

Gwiriwch a oes angen y canlynol arnoch:

Mae rheolau i’w dilyn hefyd os ydych yn gwneud y canlynol:

Y lle yr ydych yn gweithio

Gwiriwch beth yw eich cyfrifoldebau os ydych yn gwneud y canlynol:

Os ydych yn rhentu neu’n prynu eiddo, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu ardrethi busnes. Gall busnesau bach wneud cais am ostyngiad ar ardrethi busnes, a bydd rhai sydd ddim yn gorfod talu.

Gwiriwch a allwch hawlio swyddfa, eiddo ac offer fel treuliau.

Cyflogi pobl i helpu

Mae pethau y bydd angen eu gwneud os ydych yn croesawu eich cyflogeion eich hun. Bydd gennych fwy o gyfrifoldebau, gan gynnwys y canlynol:

Os byddwch yn cyflogi gweithwyr asiantaeth (yn agor tudalen Saesneg) neu weithwyr llawrydd (yn agor tudalen Saesneg), mae gennych gyfrifoldebau fel eu hiechyd a’u diogelwch.

Help a chymorth

Gallwch gael help gyda sefydlu eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).