Trosolwg

Os ydych yn hunangyflogedig, bydd gan eich busnes amryw o gostau rhedeg. Gallwch ddidynnu rhai o’r costau hyn i gyfrifo’ch elw trethadwy, cyn belled â’u bod yn dreuliau caniataol.

Er enghraifft, mae eich trosiant yn £40,000 ac rydych yn hawlio £10,000 mewn treuliau caniataol. Rydych ond yn talu treth ar y £30,000 sy’n weddill – yr enw ar hyn yw ‘eich elw trethadwy’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Nid yw treuliau caniataol yn cynnwys arian a gymerwyd o’ch busnes i dalu am bryniannau preifat.

Os ydych yn rhedeg eich cwmni cyfyngedig eich hun (yn agor tudalen Saesneg), mae angen i chi ddilyn rheolau gwahanol. Gallwch ddidynnu unrhyw gostau busnes o’ch elw cyn treth. Os ydych yn defnyddio unrhyw eitem at ddibenion personol, mae’n rhaid i chi ei nodi fel buddiant cwmni.

Costau y gallwch eu hawlio fel treuliau caniataol

Mae’r rhain yn cynnwys: 

Ni allwch hawlio treuliau os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000 (yn agor tudalen Saesneg).

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych yn siŵr a yw cost busnes yn draul ganiataol.

Costau y gallwch eu hawlio fel lwfansau cyfalaf

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf pan rydych yn prynu rhywbeth rydych yn ei gadw i’w ddefnyddio yn eich busnes, er enghraifft: 

  • offer
  • peiriannau
  • cerbydau busnes, er enghraifft ceir, faniau, lorïau

Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000 (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch ei hawlio fel lwfans cyfalaf. Fodd bynnag, dylid hawlio am bob eitem arall yr ydych yn ei phrynu ac yn ei chadw ar gyfer eich busnes fel traul ganiataol yn y modd arferol.

Os ydych yn defnyddio rhywbeth at ddibenion busnes a dibenion personol

Gallwch ond hawlio treuliau caniataol ar gyfer y costau busnes.

Enghraifft

Mae’ch biliau ffôn symudol am y flwyddyn yn dod i gyfanswm o £200. O’r swm hwn, rydych yn gwario £130 ar alwadau personol a £70 ar alwadau busnes. 

Gallwch hawlio £70 fel treuliau busnes.

Os ydych yn gweithio gartref

Efallai y byddwch yn gallu hawlio cyfran o’ch costau am bethau fel: 

  • costau gwresogi
  • costau trydan
  • Treth Gyngor
  • llog morgais neu rent
  • defnydd o’r rhyngrwyd a’r ffôn

Bydd angen i chi ddod o hyd i ddull rhesymol o rannu eich costau, er enghraifft drwy ystyried nifer yr ystafelloedd rydych yn eu defnyddio at ddibenion busnes, neu faint o amser rydych yn ei dreulio’n gweithio gartref.

Enghraifft

Mae gennych 4 ystafell yn eich cartref, ac rydych ond yn defnyddio un ohonynt fel swyddfa.

Mae’ch bil trydan am y flwyddyn yn £400. Gan gymryd bod yr holl ystafelloedd yn eich cartref yn defnyddio symiau cyfartal o drydan, gallwch hawlio £100 fel treuliau caniataol (£400 wedi ei rannu â 4).

Os ydych yn gweithio gartref am un diwrnod yr wythnos yn unig, gallech hawlio £14.29 fel treuliau caniataol (£100 wedi ei rannu â 7).

Treuliau symlach

Gallwch ddefnyddio treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn osgoi defnyddio cyfrifiadau cymhleth i gyfrifo’ch treuliau busnes. Mae treuliau symlach yn gyfraddau unffurf y gellir eu defnyddio ar gyfer:

  • cerbydau
  • gweithio gartref
  • byw ar eich safle busnes