Treuliau os ydych yn hunangyflogedig

Printable version

1. Trosolwg

Os ydych yn hunangyflogedig, bydd gan eich busnes amryw o gostau rhedeg. Gallwch ddidynnu rhai o’r costau hyn i gyfrifo’ch elw trethadwy, cyn belled â’u bod yn dreuliau caniataol.

Er enghraifft, mae eich trosiant yn £40,000 ac rydych yn hawlio £10,000 mewn treuliau caniataol. Rydych ond yn talu treth ar y £30,000 sy’n weddill – yr enw ar hyn yw ‘eich elw trethadwy’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Nid yw treuliau caniataol yn cynnwys arian a gymerwyd o’ch busnes i dalu am bryniannau preifat.

Os ydych yn rhedeg eich cwmni cyfyngedig eich hun (yn agor tudalen Saesneg), mae angen i chi ddilyn rheolau gwahanol. Gallwch ddidynnu unrhyw gostau busnes o’ch elw cyn treth. Os ydych yn defnyddio unrhyw eitem at ddibenion personol, mae’n rhaid i chi ei nodi fel buddiant cwmni.

Costau y gallwch eu hawlio fel treuliau caniataol

Mae’r rhain yn cynnwys: 

Ni allwch hawlio treuliau os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych yn siŵr a yw cost busnes yn draul ganiataol.

Costau y gallwch eu hawlio fel lwfansau cyfalaf

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf pan rydych yn prynu rhywbeth rydych yn ei gadw i’w ddefnyddio yn eich busnes, er enghraifft: 

  • offer
  • peiriannau
  • cerbydau busnes, er enghraifft ceir, faniau, lorïau

Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000.

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch ei hawlio fel lwfans cyfalaf. Fodd bynnag, dylid hawlio am bob eitem arall yr ydych yn ei phrynu ac yn ei chadw ar gyfer eich busnes fel traul ganiataol yn y modd arferol.

Os ydych yn defnyddio rhywbeth at ddibenion busnes a dibenion personol

Gallwch ond hawlio treuliau caniataol ar gyfer y costau busnes.

Enghraifft

Mae’ch biliau ffôn symudol am y flwyddyn yn dod i gyfanswm o £200. O’r swm hwn, rydych yn gwario £130 ar alwadau personol a £70 ar alwadau busnes. 

Gallwch hawlio £70 fel treuliau busnes.

Os ydych yn gweithio gartref

Efallai y byddwch yn gallu hawlio cyfran o’ch costau am bethau fel: 

  • costau gwresogi
  • costau trydan
  • Treth Gyngor
  • llog morgais neu rent
  • defnydd o’r rhyngrwyd a’r ffôn

Bydd angen i chi ddod o hyd i ddull rhesymol o rannu eich costau, er enghraifft drwy ystyried nifer yr ystafelloedd rydych yn eu defnyddio at ddibenion busnes, neu faint o amser rydych yn ei dreulio’n gweithio gartref.

Enghraifft

Mae gennych 4 ystafell yn eich cartref, ac rydych ond yn defnyddio un ohonynt fel swyddfa.

Mae’ch bil trydan am y flwyddyn yn £400. Gan gymryd bod yr holl ystafelloedd yn eich cartref yn defnyddio symiau cyfartal o drydan, gallwch hawlio £100 fel treuliau caniataol (£400 wedi ei rannu â 4).

Os ydych yn gweithio gartref am un diwrnod yr wythnos yn unig, gallech hawlio £14.29 fel treuliau caniataol (£100 wedi ei rannu â 7).

Treuliau symlach

Gallwch ddefnyddio treuliau symlach er mwyn osgoi defnyddio cyfrifiadau cymhleth i gyfrifo’ch treuliau busnes. Mae treuliau symlach yn gyfraddau unffurf y gellir eu defnyddio ar gyfer:

  • cerbydau
  • gweithio gartref
  • byw ar eich safle busnes

2. Swyddfa ac offer

Gallwch hawlio ar gyfer eitemau y byddech yn eu defnyddio am 2 flynedd neu lai fel treuliau caniataol, er enghraifft:

  • deunydd ysgrifennu
  • costau rhent, trethi, pŵer ac yswiriant

O ran yr offer yr ydych yn eu cadw i’w defnyddio yn eich busnes, er enghraifft cyfrifiaduron neu argraffwyr, gallwch eu hawlio fel:

Ni allwch hawlio ar gyfer unrhyw ddefnydd o’r safle, neu ddefnydd o’r ffonau neu adnoddau eraill o’r swyddfa os nad yw at ddibenion busnes.

Deunydd ysgrifennu

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer:

  • biliau ffôn, ffôn symudol, ffacs neu ryngrwyd
  • costau postio 
  • deunydd ysgrifennu 
  • costau argraffu 
  • inc argraffydd a chetris argraffu 
  • meddalwedd gyfrifiadurol y mae’ch busnes yn ei defnyddio am lai na 2 flynedd
  • meddalwedd gyfrifiadurol os yw’ch busnes yn gwneud taliadau rheolaidd i adnewyddu’r drwydded ar ei chyfer (hyd yn oed os ydych yn defnyddio’r feddalwedd hon am fwy na 2 flynedd)

Gallwch hawlio meddalwedd arall ar gyfer eich busnes fel lwfans cyfalaf, oni bai eich bod yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).

Costau rhent, trethi, pŵer ac yswiriant

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer:

Safle’r busnes

Ni allwch hawlio treuliau na lwfansau ar gyfer prynu safle busnes.

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw safle busnes a chyfarpar.

Ar gyfer addasiadau er mwyn gosod offer, neu er mwyn eu disodli, gallwch eu hawlio fel:

Gallwch hefyd hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer rhai rhannau annatod o’r adeilad, er enghraifft systemau gwresogi dŵr.

3. Treuliau car, fan a theithio

Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer:

  • yswiriant cerbyd 
  • atgyweiriadau a gwasanaethu 
  • tanwydd 
  • parcio 
  • costau hurio 
  • ffioedd trwydded cerbydau 
  • yswiriant torri i lawr
  • tocynnau trên, tocynnau bws, tocynnau awyren a chostau tacsi 
  • ystafelloedd gwesty 
  • prydau bwyd ar deithiau busnes dros nos

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • costau moduro a theithio nad ydynt yn ymwneud â’r busnes 
  • dirwyon 
  • teithio rhwng cartref a busnes

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cyfrifo’ch treuliau car, fan neu feic modur gan ddefnyddio cyfradd unffurf (yn agor tudalen Saesneg) (a enwir yn ‘treuliau symlach’) i gyfrifo’r milltiroedd yn lle cyfrifo’r costau gwirioneddol o brynu a rhedeg eich cerbyd.

Prynu cerbydau

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol ac yn prynu cerbyd ar gyfer eich busnes, gallwch ei hawlio fel lwfans cyfalaf.

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch ei hawlio fel lwfans cyfalaf ar yr amod nad ydych yn defnyddio treuliau symlach.

Gallwch hawlio pob math arall o gerbyd fel traul ganiataol.

4. Treuliau dillad

Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer: 

  • gwisgoedd unffurf 
  • dillad amddiffynnol sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwaith 
  • gwisgoedd ar gyfer actorion neu ddiddanwyr 

Ni allwch hawlio ar gyfer dillad bob dydd (hyd yn oed os ydych eu gwisgo i’r gwaith).

5. Treuliau staff

Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer:

  • cyflogau staff
  • bonysau 
  • pensiynau 
  • buddiannau 
  • ffioedd asiantaeth 
  • isgontractwyr 
  • Yswiriant Gwladol y cyflogwr
  • cyrsiau hyfforddi sy’n gysylltiedig â’ch busnes

Ni allwch hawlio ar gyfer gofalwyr neu help domestig, er enghraifft nanis.

6. Ailwerthu nwyddau

Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer:

  • nwyddau i’w hailwerthu (stoc)
  • deunyddiau crai 
  • costau uniongyrchol o gynhyrchu nwyddau 

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • unrhyw nwyddau neu ddeunyddiau a brynwyd at ddibenion preifat 
  • dibrisiad offer

7. Costau cyfreithiol ac ariannol

Gall ffioedd cyfrifyddu, ffioedd cyfreithiol a ffioedd proffesiynol eraill gael eu hystyried yn dreuliau busnes caniataol.

Gallwch hawlio ar gyfer y costau canlynol:

  • cyflogi cyfrifydd, cyfreithiwr, syrfëwr a phensaer at ddibenion busnes
  • premiymau yswiriant indemniad proffesiynol

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • costau cyfreithiol a godwyd wrth brynu eiddo neu beiriannau – os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio’r costau hyn fel lwfansau cyfalaf
  • dirwyon am dorri’r gyfraith

Costau banc, costau cardiau credyd a thaliadau ariannol eraill

Gallwch hawlio ar gyfer y costau busnes canlynol:  

  • costau banc, costau gorddrafft a chostau cardiau credyd 
  • llog ar fenthyciadau banc a benthyciadau busnes
  • llog ar hurbwrcas 
  • taliadau prydlesi 
  • taliadau gan ddefnyddio cyllid amgen, er enghraifft ‘Islamic finance’

Ni allwch hawlio ar gyfer ad-daliadau o fenthyciadau, gorddrafftiau neu drefniadau ariannu.

Polisiau yswiriant 

Gallwch hawlio ar gyfer unrhyw bolisi yswiriant ar gyfer eich busnes, er enghraifft yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Os na fydd eich cwsmer yn eich talu

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch wneud hawliad ar gyfer symiau o arian sydd wedi’u nodi yn eich trosiant, ond na fyddwch byth yn eu cael (‘drwgddyledion’). Fodd bynnag, gallwch ddileu’r dyledion hyn dim ond os ydych yn sicr ni fyddant yn cael eu hadennill o’ch cwsmer yn y dyfodol.

Ni allwch hawlio ar gyfer: 

  • dyledion sydd heb eu cynnwys yn eich trosiant 
  • dyledion sy’n gysylltiedig â gwaredu asedion sefydlog, er enghraifft tir, adeiladau, peiriannau 
  • drwgddyledion na chawsant eu cyfrifo’n iawn, er enghraifft ni allwch amcangyfrif bod eich dyledion yn hafal i 5% o’ch trosiant

Ni allwch hawlio ar gyfer drwgddyledion os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg), oherwydd nid ydych wedi cael yr arian gan eich dyledwyr. Wrth ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod, rydych ond yn cofnodi’r incwm rydych wedi’i gael yn wirioneddol ar eich Ffurflen Dreth.

8. Marchnata, adloniant a thanysgrifiadau

Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer: 

  • hysbysebu mewn papurau newydd neu gyfeirlyfrau 
  • hysbysebu mewn swmp ar un tro (ymgyrch bostio)
  • samplau yn rhad ac am ddim 
  • costau gwefan

Ni allwch hawlio ar gyfer: 

  • gwesteia cleientiaid, cyflenwyr a chwsmeriaid
  • lletygarwch ar gyfer digwyddiadau

Tanysgrifiadau 

Gallwch hawlio ar gyfer: 

  • cylchgronau masnach neu gylchgronau proffesiynol 
  • aelodaeth â chorff masnachol neu sefydliad proffesiynol, os yw’n gysylltiedig â’ch busnes

Ni allwch hawlio ar gyfer: 

9. Cyrsiau hyfforddi

Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer hyfforddiant sy’n eich helpu i wneud y canlynol:

  • gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth ar gyfer eich busnes
  • bod yn ymwybodol o’r dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir yn eich diwydiant 
  • datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd sy’n gysylltiedig â newidiadau i’ch diwydiant
  • datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd er mwyn helpu’ch busnes – gan gynnwys sgiliau gweinyddol

Ni allwch hawlio ar gyfer hyfforddiant sy’n eich helpu i wneud y canlynol:

  • dechrau busnes newydd
  • ehangu’ch busnes i faes newydd nad yw’n gysylltiedig â’r hyn yr ydych yn ei wneud ar hyn o bryd

Gallwch ddarllen yr enghreifftiau hyn ynghylch pa hyfforddiant y gallwch hawlio ar ei gyfer, a pha hyfforddiant na allwch hawlio ar ei gyfer (yn agor tudalen Saesneg).

10. Sut i hawlio

Bydd angen i chi gadw cofnodion o’ch holl dreuliau busnes fel tystiolaeth o’ch costau.

Bydd yn rhaid i chi adio’ch holl dreuliau caniataol ar gyfer y flwyddyn dreth at ei gilydd, a nodi’r cyfanswm yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Nid oes angen i chi anfon tystiolaeth o’ch treuliau pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Fodd bynnag, dylech gadw tystiolaeth a chofnodion fel y gallwch eu dangos i Gyllid a Thollau EF (CThEF), os gofynnir i chi wneud hynny.

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich cofnodion yn gywir.