Treuliau symlach os ydych yn hunangyflogedig

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Mae treuliau symlach yn ffordd o gyfrifo rhai o’ch treuliau busnes gan ddefnyddio cyfraddau unffurf yn hytrach na chyfrifo’ch costau busnes gwirioneddol.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio treuliau symlach. Gallwch benderfynu a yw hyn yn gweddu i’ch busnes.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Pwy all ddefnyddio treuliau symlach

Gall treuliau symlach gael eu defnyddio gan y canlynol:

  • unig fasnachwyr
  • partneriaeth busnes sydd heb gwmnïau fel partneriaid

Ni all cwmnïau cyfyngedig na phartneriaethau busnes sy’n ymwneud â chwmni cyfyngedig ddefnyddio treuliau symlach.

Math o dreuliau

Gallwch ddefnyddio cyfraddau unffurf ar gyfer y canlynol:

  • costau busnes ar gyfer rhai cerbydau
  • gweithio gartref
  • byw yn eich safle busnes

Mae’n rhaid i chi gyfrifo bob treuliau eraill drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.

Sut i ddefnyddio treuliau symlach

  1. Cadwch gofnod o’ch milltiroedd busnes ar gyfer cerbydau, yr oriau rydych yn gweithio gartref a faint o bobl sy’n byw yn safle’ch busnes dros y flwyddyn.  

  2. Ar ddiwedd y flwyddyn dreth defnyddiwch y cyfraddau unffurf ar gyfer milltiredd cerbyd, gweithio gartref, a byw yn eich safle busnes i gyfrifo’ch treuliau.  

  3. Rhowch y symiau hyn yn y cyfanswm ar gyfer eich treuliau yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu’r hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda’r hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol. Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo a yw treuliau symlach yn addas i’ch busnes.