Treuliau os ydych yn hunangyflogedig
Cyrsiau hyfforddi
Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer hyfforddiant sy’n eich helpu i wneud y canlynol:
- gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth ar gyfer eich busnes
- bod yn ymwybodol o’r dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir yn eich diwydiant
- datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd sy’n gysylltiedig â newidiadau i’ch diwydiant
- datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd er mwyn helpu’ch busnes – gan gynnwys sgiliau gweinyddol
Ni allwch hawlio ar gyfer hyfforddiant sy’n eich helpu i wneud y canlynol:
- dechrau busnes newydd
- ehangu’ch busnes i faes newydd nad yw’n gysylltiedig â’r hyn yr ydych yn ei wneud ar hyn o bryd
Gallwch ddarllen yr enghreifftiau hyn ynghylch pa hyfforddiant y gallwch hawlio ar ei gyfer, a pha hyfforddiant na allwch hawlio ar ei gyfer (yn agor tudalen Saesneg).