Costau cyfreithiol ac ariannol

Gall ffioedd cyfrifyddu, ffioedd cyfreithiol a ffioedd proffesiynol eraill gael eu hystyried yn dreuliau busnes caniataol.

Gallwch hawlio ar gyfer y costau canlynol:

  • cyflogi cyfrifydd, cyfreithiwr, syrfëwr a phensaer at ddibenion busnes
  • premiymau yswiriant indemniad proffesiynol

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • costau cyfreithiol a godwyd wrth brynu eiddo neu beiriannau – os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio’r costau hyn fel lwfansau cyfalaf
  • dirwyon am dorri’r gyfraith

Costau banc, costau cardiau credyd a thaliadau ariannol eraill

Gallwch hawlio ar gyfer y costau busnes canlynol:  

  • costau banc, costau gorddrafft a chostau cardiau credyd 
  • llog ar fenthyciadau banc a benthyciadau busnes
  • llog ar hurbwrcas 
  • taliadau prydlesi 
  • taliadau gan ddefnyddio cyllid amgen, er enghraifft ‘Islamic finance’

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) gallwch ond hawlio hyd at £500 mewn costau banc a llog.

Ni allwch hawlio ar gyfer ad-daliadau o fenthyciadau, gorddrafftiau neu drefniadau ariannu.

Polisiau yswiriant 

Gallwch hawlio ar gyfer unrhyw bolisi yswiriant ar gyfer eich busnes, er enghraifft yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Os na fydd eich cwsmer yn eich talu

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch wneud hawliad ar gyfer symiau o arian sydd wedi’u nodi yn eich trosiant, ond na fyddwch byth yn eu cael (‘drwgddyledion’). Fodd bynnag, gallwch ddileu’r dyledion hyn dim ond os ydych yn sicr ni fyddant yn cael eu hadennill o’ch cwsmer yn y dyfodol.

Ni allwch hawlio ar gyfer: 

  • dyledion sydd heb eu cynnwys yn eich trosiant 
  • dyledion sy’n gysylltiedig â gwaredu asedion sefydlog, er enghraifft tir, adeiladau, peiriannau 
  • drwgddyledion na chawsant eu cyfrifo’n iawn, er enghraifft ni allwch amcangyfrif bod eich dyledion yn hafal i 5% o’ch trosiant

Ni allwch hawlio ar gyfer drwgddyledion os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg), oherwydd nid ydych wedi cael yr arian gan eich dyledwyr. Wrth ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod, rydych ond yn cofnodi’r incwm rydych wedi’i gael yn wirioneddol ar eich Ffurflen Dreth.