Treuliau car, fan a theithio

Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer:

  • yswiriant cerbyd 
  • atgyweiriadau a gwasanaethu 
  • tanwydd 
  • parcio 
  • costau hurio 
  • ffioedd trwydded cerbydau 
  • yswiriant torri i lawr
  • tocynnau trên, tocynnau bws, tocynnau awyren a chostau tacsi 
  • ystafelloedd gwesty 
  • prydau bwyd ar deithiau busnes dros nos

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • costau moduro a theithio nad ydynt yn ymwneud â’r busnes 
  • dirwyon 
  • teithio rhwng cartref a busnes

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cyfrifo’ch treuliau car, fan neu feic modur gan ddefnyddio cyfradd unffurf (yn agor tudalen Saesneg) (a enwir yn ‘treuliau symlach’) i gyfrifo’r milltiroedd yn lle cyfrifo’r costau gwirioneddol o brynu a rhedeg eich cerbyd.

Prynu cerbydau

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol ac yn prynu cerbyd ar gyfer eich busnes, gallwch ei hawlio fel lwfans cyfalaf.

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch ei hawlio fel lwfans cyfalaf ar yr amod nad ydych yn defnyddio treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hawlio pob math arall o gerbyd fel traul ganiataol.