Dod yn unig fasnachwr

Skip contents

Dewis enw ar gyfer eich busnes

Gallwch fasnachu o dan eich enw eich hun, neu gallwch ddewis enw arall ar gyfer eich busnes.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’n rhaid i enwau unig fasnachwyr beidio â:

  • chynnwys ‘cyfyngedig’ (‘limited’), ‘Cyf’ (‘Ltd’), ‘partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig’ (‘limited liability partnership’), ‘PAC’ (‘LLP’), ‘cwmni cyfyngedig cyhoeddus’ (‘public limited company’), na ‘ccc’ (‘plc’)
  • bod yn sarhaus
  • bod yn rhy debyg i enw sydd â nod masnach gan gwmni arall (yn agor tudalen Saesneg) (oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi ei newid os bydd rhywun yn cwyno)

Mae’n rhaid i chi gynnwys eich enw ac enw’ch busnes (os oes gennych un) ar waith papur swyddogol, er enghraifft anfonebau a llythyrau.